galeri

Marchnad Nadolig

Eleni, mi fydd Marchnad Nadolig Galeri yn rhan o farchnad ehangach yng Nghaernarfon, sydd yn gweld stondinau bwyd, diod, crefft a celf wedi gwasgaru ogwmpas y dref mewn lleoliadau amrywiol, sef:

Cei Llechi
Galeri (Doc Victoria)
Neuadd y Farchnad (Stryd y Plas)
Y Stesion (Ffordd Santes Helen)
Yr Hen Lys (Pen Deitsh)

Bydd y stondinau ar agor rhwng 10:30 – 16:00 gyda mynediad yn rhad ac am ddim.

Cyd-drefnir y marchnadoedd rhwng Galeri a Gŵyl Fwyd Caernarfon.


I gyd-fynd gyda’r digwyddiad, yn Galeri – bydd digwyddiadau ychwanegol, megis:

Dangosiadau ffilm Nadoligaidd

Polar Express

Polar Express [U]
Sadwrn
18.11.23
10:00 - 11:40
£5
Linc https://tinyurl.com/4559443v

The Grinch

The Grinch [U]
Sadwrn
18.11.23
10:15 - 11:40
£5
Linc https://tinyurl.com/bddh526

Home Alone

Home Alone
Sadwrn
18.11.23
15:15 - 17:00
£5
Linc https://tinyurl.com/yae6m9tn

Alarch Mewn Cariad

Mae Gary & Pel yn cipio calonau cynulleidfaoedd; gan eu gwahodd i ddawnsio’n araf, tynnu ychydig o luniau a mynd am ‘daith ramantus‘ ar eu Pedalo siâp alarch sy’n 7 troedfedd mewn maint – gyda perfformiad hwn ar droed yn siŵr o godi gwên.

Bydd yr alarch unigryw yn teithio o gwmpas Galeri a Chaernarfon o 10:30 ymlaen fel rhan o Farchnadoedd Nadolig Caernarfon 2023.

Comisiynwyd y gwaith gan Articulture Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.


Gweithdai Celf a Chrefft

Yn y Safle Creu
10:00 – 12:00 a 13:00 - 15:00
*sesiynau galw fewn fydd rhain, gwerthfawrogir cyfraniad ariannol tuag at elusen Crochan Celf.

Perfformiadau Cerddorol

Yn ardal y bar gan aelodau Côr Cymunedol Canu rhwng 12:30 – 13:30.