Clwb Ieuenctid LHDT+ GISDA a Galeri yn Cyflwyno:
Ers mis Tachwedd 2019 mae aelodau o Glwb Ieuenctid LHDT+ GISDA wedi bod yn rhan o gynllun ‘Rhaglennwyr Ifanc’ Galeri, Caernarfon – diolch i nawdd gan Ganolfan Ffilm Cymru.
Yr adolygydd ffilm Dion Wyn Hughes sydd wedi bod yn arwain y sesiynau, ac mae’r criw wedi trefnu Gŵyl Ffilm LHDT+ sydd yn cyd-fynd gyda mis Hanes LHDT.
Pob nos Lun am 19:00 yn ystod mis Chwefror, bydd cyfle i fwynhau ffilm sydd wedi’i ddewis gan y criw yn sinema Galeri.
ROCKY HORROR PICTURE SHOW: SING-A-LONG [15] Llun – 03.02.20 - 19:00 |
TANGARINE [15]+ IN A HEARTBEAT (ffilm fer) Llun – 10.02.20 – 19:00
|
GOD’S OWN COUNTRY [15] Llun – 17.02.20 – 19:00 |
THE HAPPY PRINCE [15]+ CAI’S STORY (ffilm fer) Llun – 24.02.20 – 19:00
|
Tocynnau: | ||
Unigol: | £3 ymlaen llaw | £4 ar y diwrnod
|
Grŵp (5+) | £2.50 ymlaen llaw | £3.50 ar y diwrnod
|