galeri

 

 

Gofod Creu @ Galeri

Mae Gofod Creu yn Galeri yn gyfle i unigolion creadigol gael defnyddio cyfleusterau Galeri (hyd at 31.09.21) er mwyn ymarfer neu ddatblygu gwaith.

Gyda diolch i gefnogaeth Cronfa Adfer Cyngor Celfyddydau Cymru (drwy Lywodraeth Cymru), rydym yn gallu cynnig ystafelloedd/gofodau yn rhad ac am ddim wrth i ni ail-agor yr adeilad a’r rhaglen artistig/adloniant yn raddol.

Os ydych chi yn:
- Artist celf sydd eisiau 'stiwdio' am gyfnod
- Yn gerddor/band eisiau gofod ymarfer
- Yn ddramodydd/sgriptiwr sydd eisiau rhywle i ddatblygu eich gwaith neu gynnal darlleniadau gyda actor(ion)
Neu yn weithiwr llawrydd sydd yn chwilio am ofod ar gyfer unrhyw bwrpas celfyddydol/artistig/creadigol arall cysylltwch.

Er mwyn datgan diddordeb, gofynnwn i chi gwblhau’r ffurflen gais yma a’i ddychwelyd cyn gynted a phosib. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar ffurf fideo neu clip sain.

Os hoffech drafod ymhellach neu dderbyn y wybodaeth ar ffurf print bras, ar-lafar dros y ffôn neu dros “zoom” - ebostiwch Arweinydd Tîm Creadigol Galeri >naomi.saunders@galericaernarfon.com