Bu Canolfan Tan y Bont yn gyrchfan boblogaidd ar un adeg i lawer o bobl Caernarfon, ond yn arbennig i grwpiau ac unigolion o’r sin roc Gymraeg roedd yn perfformio yn rheolaidd yno.
Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn 1976 a buodd yn gartref i lawer o nosweithiau tyngedfennol yn hanes y Sin Roc Gymraeg. Erbyn heddiw, mae’r adeilad wedi ei ddinistrio, a bellach maes parcio Ffordd y Felin sydd i’w weld yn sefyll yn ei le.
Bwriad prosiect CANFAS, oedd i greu gwaith celf sydd yn talu teyrnged i’r bwrlwm a arferai fod yng Nghanolfan Tan y Bont, gyda’r holl waith yn cael ei ysbrydoli gan y caneuon a’r albymau, a’r cerddorion a berfformiodd yn y Ganolfan.
Yn arwain ar y prosiect yma mae GISDA, elusen sydd yn cynnig lloches a chefnogaeth i bobl ifanc digartref yr ardal.
Wrth weithio’n agos a Thîm Creadigol GISDA, mae pobl ifanc GISDA wedi bod yn gweithio’n galed i ddarganfod yr hanes a’r straeon sydd tu ôl I Ganolfan Tan y Bont.
Dewisodd pobl ifanc GISDA dîm o artistiaid i gydweithio a nhw ar y prosiect yma, gan gynhyrchu casgliad o weithiau celf sydd ar hyn o bryd yn cael eu harddangos ledled ardal Tan y Bont – I gyd wedi’u dylanwadu gan gwahanol elfennau ynghlwm a’r Ganolfan eiconig.
Mae'r tonffurf disglair yma sydd wedi ei greu gan Gisda, Heat and Beat Blacksmiths a Ant Dickinson wedi ei greu er mwyn cyfleu ysbryd bywiog ac etifeddiaeth gerddorol Tan y Bont
Mae’r darn yma yn ffocysu ar ffasâd adeilad Canolfan Tanybont. Mae’n ddehongliad mynegiadol o’r adeilad, llawn lliw a bwrlwm. Mae’n anelu i ddal ysbryd ac egni’r ganolfan, drwy ddefnydd egnïol o liw a deunyddiau. Yn ogystal â dal hwyl a hedoniaeth Canolfan Tanybont yn ei oes aur, mae’r hanes wedi’i wau mor naturiol yn y bensaerniaeth – fel enghraifft, gwelwn goes yn un o’r ffenestri, yn cynrychioli yr holl bobl ifanc oedd yn sleifio i mewn i’r adeilad am gerddoriaeth a dawns! Cafodd y darn ei greu mewn cydweithrediad ag artistiaid ymroddedig iawn yng nghriw ifanc GISDA.
Mae Ffion Pritchard yn artist cymunedol gydag ystod eang o brofiad yn y sector celf, dylunio, adloniant a’r cyfryngau. Yng nghraidd ei hymarfer, mae’r gred fod celf o fudd i gymdeithas, boed hynny trwy gelf gymunedol, celf mewn gofal iechyd neu trwy bŵer cathartig adrodd straeon, hiwmor ac adloniant. Ar ôl hyfforddi fel darlunydd, gan raddio o brifysgol Brighton gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2017, mae ei hymarfer wedi parhau i fod yn eang ac eclectig, gan rychwantu ar draws disgyblaethau ffilm, darlunio, a chelf cymunedol.
Mae Lleucu Non yn Artist o Ddyffryn Nantlle sy’n arbenigo mewn Animeiddio 2D â llaw, ac yn ddiweddar wedi graddio gyda BA mewn Animeiddio o Goleg Celf Caeredin. Mae hi wrth ei bodd yn darlunio pobl ac archwilio sut y gellir portreadu diwylliant a natur dynol mewn delweddau llonydd a ffilm.
Mae’r darnau terfynol yma yn arddangos delweddau cydweithredol rhwng Lleucu a phobl ifanc GISDA. Ffocws y sesiynau oedd i atgyfodi atgofion. Yn benodol, atgofion pobl leol o’r hen glwb cyffrous Tan y Bont. Arbrofwyd gydag arddull collage, pasteli olew, graffit a lliw digidol i greu portreadau lliwgar a deniadol o rai o’r artistiaid egnïol fu’n perfformio yno yn y 1970au.
Mae Lynwen yn artist sy’n byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio fel dylunydd graffeg, yn rhan o dîm creadigol GISDA, ac hefyd yn mwynhau gweithio efo gludwaith a thecstilau.
Mae darn Lynwen wedi’i ysbrydoli gan gloriau albymau rhai o’r bandiau a berfformiodd yng Nghanolfan Tan y Bont, posteri o nosweithiau yn y Ganolfan a darnau o hen gylchgronau ‘Sgrech’. Defnyddiwyd lliwiau cynradd a cymeriadau cofiadwy megis ‘Mr Vinyl’ i gyfleu y syniadau yma yn ei gwaith. Elfennau eraill a oedd yn ysbrydoliaeth oedd y bananas, trowsus streipiau du a gwyn ar glawr Sgrech, a dyfyniadau o ‘Sgrech’, sef ‘Tanybont ydi’r lle’ ac ‘Y lle yng nghanol y dre’. Y bwriad oedd i greu pedair delwedd a gosod nhw allan mewn steil hysbysfwrdd.
Mae gwaith Rhys wedi’i ysbrydoli gan y cerddorion a’r bandiau a fu’n chwarae yn y Ganolfan. Wrth weithio gyda chriw o bobl ifanc GISDA, defnyddiodd luniau archif o artistiaid yn chwarae yng Nghanolfan Tan y Bont i greu 6 darlun gafodd eu sgrin argraffu ar ddisgiau finyl 7”. Yn cyfuno technegau fel collage, sganio ac argraffu sgrin mi wnaethent greu casgliad ‘abstract’ a ‘grungy’ o atgofion Clwb Tan Y Bont. Wrth drafod y prosiect dywedodd Rhys, ‘Fel artist gweledol dwi’n ffeindio fy hun yn defnyddio mwy nag un cyfrwng pan dwi’n creu celf, ac yn ail-addasu darnau gorffenedig i greu darnau hollol wahanol! Mae ‘na rhywbeth reit ‘cool’ am weld faint o weithiau fedrith darn o gelf gael ei drawsnewid drwy ddefnyddio cyfryngau gwahanol!’
Mae Caernarfon yn dref gerddorol i'w chraidd, a nod y prosiect hwn oedd dal hyn mewn ffordd unigryw. Ochr yn ochr â'r gwaith celf a arddangosir o amgylch ardal Tan y Bont, bu’r artist Hedydd Ioan yn gweithio gyda chriw GISDA a’r gymuned ehangach i wireddu gweledigaeth y cerddor Sera Zyborska ar brosiect o greu ‘soundscape’ wedi’i ysbrydoli gan y dref, a hanes Canolfan Tan y Bont.
Fy enw i ydi Hedydd, dwi’n artist o Ddyffryn Nantlle sy’n gweithio o fewn ffilm, cerddoriaeth a theatr. Fel arfer o ddydd i ddydd dwi’n cael y fraint o weithio gyda llu o artistiaid a phobl ifanc wych i greu darnau cynhyrfus a diddorol. Pan ddaeth y cyfle i fod yn rhan o’r tîm oedd yn dod â stori Tan y Bont yn fyw roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn. Pan gychwynnon ni, yr unig beth roeddem yn gwybod oedd ein bod ni eisio cael darn sain a darn ffilm i gyd fynd â’r gweithiau celf a’r sesiynau oedd yn cael eu gwneud fel rhan o waith Canfas. Wrth i’r sesiynau gychwyn ac wrth i mi gynnal cwpl o sesiynau cerddoriaeth fy hun dyma fi’n dechrau datblygu trac o’r holl synau roeddwn i’n gasglu o gwmpas y lle. Trwy’r broses yma a gwaith gwych Ffion Pritchard yn Gisda yn dogfennu’r sesiynau celf dyma ‘sound scape’ yn datblygu oedd yn adrodd hanes y clwb, ond hefyd yn dangos lleisiau pobl ifanc Caernarfon heddiw. Mae’r broses o gael treulio amser yn dod i nabod yr hanes a’r bobl ifanc yn wych a dwi mor falch o’r darn sydd wedi cael ei greu i arddangos yr hanes arbennig yma.