galeri


When the World Turns (Oily Cart)

image

Rydym yn tyfu byd newydd…

Ymunwch â ni mewn antur synhwyraidd, anadlol, fyw.

Mae'r byd wedi penderfynu bod angen i bethau newid. Mae wedi ysgwyd a drysu, wedi cwympo a throi, a nawr mae rhywbeth hudolus a direidus wedi dechrau tyfu…

Wedi’ch trochi ymhlith cannoedd o blanhigion go iawn, gwyliwch, clywch a theimlwch wrth i gerddoriaeth, pypedau, synau, arogleuon a chysgodion ddod yn fyw o’ch cwmpas. Yma gallwn fod yn llonydd, yma gallwn fod.

Gyda’n gilydd, byddwn yn creu byd newydd, wedi’i arwain gan ein synhwyrau. Bydd y byd hwn yn wahanol oherwydd eich bod chi yma.

Mae When the World Turnsis yn sioe hygyrch, agos-atoch, ryngweithiol gan arloeswyr Theatr Synhwyraidd, Oily Cart. Gallwch ddisgwyl llawer o eiliadau synhwyraidd agos, cyflymder ysgafn, a digon o le i anadlu ar gyfer prosesu. Mae’r sioe wedi’i llunio’n arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc anabl o bob oed sy’n profi’r rhwystrau mwyaf i fynediad (plant sy’n defnyddio cadeiriau olwyn sydd wedi’u labelu’n hanesyddol ag anableddau dysgu dwys a lluosog).

“Profoundly moving… reveals new possibilities”The Conversation 

A sustainable, sensory collaboration between Oily Cart (UK) and Polyglot Theatre (AUS).


Tocynnau

1 person ifanc + 1 gofalwr = £12

Gofalwr ychwanegol =£12 Ffoniwch y swyddfa docynnau i archebu tocyn gofalwr ychwanegol ar 01286 685 222.


10:45 - Dydd Mawrth, 11 Mawrth Tocynnau

13:30 - Dydd Mawrth, 11 Mawrth Tocynnau

16:30 - Dydd Mawrth, 11 Mawrth Tocynnau

10:45 - Dydd Mercher, 12 Mawrth Tocynnau

13:30 - Dydd Mercher, 12 Mawrth Tocynnau

10:45 - Dydd Iau, 13 Mawrth Tocynnau

13:30 - Dydd Iau, 13 Mawrth Tocynnau

16:30 - Dydd Iau, 13 Mawrth Tocynnau