galeri


Gig Dolig Cor Lleisiau Llawen

image

Dewch lawr i Galeri nos Fawrth, 17eg o Ragfyr yn y theatr i gael eich ddiddanu gan Gôr Arwyddo Lleisiau Llawen. Bydd arlwy o ganeuon Nadoligaidd Cymraeg a Saesneg ar eich cyfer, ac wrth gwrs, pob un yn cael ei arwyddo drwy Makaton hefyd!

Felly, ymunwch â Ceri, Donna a’r criw yn hwyl yr ŵyl - a chofiwch eich siwmper Nadolig!

Ariannwyd Côr Arwyddo Lleisiau Llawen gan gronfa Cymunedol Y Loteri Cenedlaethol.

17:30 - Dydd Mawrth, 17 Rhagfyr Tocynnau