Mae’n 1955, oes yr NHS newydd, ond mae’r wyrcws yn sefyll o hyd, a rhai o’i drigolion yn garcharorion tlodi ers hanner canrif a mwy.
Daw dwy fenyw o gefndiroedd hollol wahanol wyneb yn wyneb, y naill yn cludo traddodiad a’r llall yn gobeithio diogelu’r traddodiad hwnnw. Ond wrth ganu, recordio a thrafod caneuon gwerin, daw hanes cudd i’r golwg.
Drama gan Jerry Hunter, wedi’i hysbrydoli gan hanesyn a glywodd am Y Foneddiges Amy Parry-Williams yn recordio caneuon gwerin yn Wyrcws Dinbych.
Cast: Morfudd Hughes, Owen Arwyn a Judith Humphreys