galeri


HARI BUDHA MAGAR – No Legs, No Limits

image

Cyflwynir gan Speakers from the Edge

O gyn-filwr anafiedig i’r ampiwtî-dwbl uwch-benglin gyntaf yn y byd i gyrraedd  copa Mynydd Everest; mae Hari yn rhannu ei daith ysbrydoledig o gael ei eni mewn beudy, mynd i’r ysgol yn droednoeth, tyfu i fyny mewn rhyfel cartref, pasio’r detholiad milwrol anoddaf, colli ei goesau yn 2010, brwydro yn erbyn iselder ac anffafriaeth, i sefyll ar gopa mwyaf y byd ym mis Mai 2023.

Fel arloeswr rhyfeddol, yn gwthio ffiniau corfforol, seicolegol a chanfyddiadol gallu ac ysbryd dynol, mae ei stori yn un o wytnwch ac arloesedd, gan brofi nad yw anabledd yn cyfyngu ar fywyd. Mae Hari yn dangos yr ystwythder meddwl sydd ei angen i ddileu terfynau ac yn dangos pwysigrwydd meddylfryd wrth orchfygu breuddwydion.

19:30 - Dydd Mercher, 19 Mawrth Tocynnau