galeri


Despicable Me 4 [U] RHIANT A BABI | PARENT AND BABY

image

Dangosiad arbennig i riant a babi (hyd at 18 mis oed). Pwrpas y dangosiadau misol yma (ar fore Gwener cyntaf y mis) yw i gynnig cyfle i rieni fwynhau ffilm gyda’u babi heb boeni am sgrechian, bwydo na amharu ar eraill… mi fydd pawb yn yr un gwch!

Bydd y golau wedi cael ei adael ymlaen (lefel isel) a bydd y sain wedi cael ei droi lawr fwy nag arfer i greu awyrgylch fwy cartrefol i’r babis. Bydd angen parcio pramiau y tuallan i’r sgrîn a gellir mynd nol a mlaen fel sydd angen.

Yn y ffilm Despicable Me gyntaf ers saith mlynedd, mae Gru, hoff asiant Cynghrair Gwrth Gelyn y byd, yn dychwelyd am gyfnod cyffrous o anhrefn Minions yn Despicable Me 4 gan Illumination.

Mae Gru a Lucy yn cychwyn pennod newydd yn eu bywydau wrth iddynt groesawu aelod newydd, Gru Jr., i'r teulu, yn ogystal â ffoi o'u cartref, o achos gelynion newydd Gru, Maxime Le a Valentina.

Mae’r ffilm yn dechrau’n brydlon ar yr amser a nodir. Bydd y drysau yn agor a’r hysbysebion yn dechrau 20 munud cyn amser dechrau’r ffilm. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. 

Bydd pris tocynnau yn codi £2 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

10:15 - Dydd Gwener, 6 Medi Tocynnau


Trêl