galeri


Clwb Drama SBARC - Blwyddyn 3 a 4

image

Mae Sbarc yn ôl gyda tymor gyfan o wersi drama wythnosol ar gyfer plant blwyddyn ysgol 3 a 4 (oed 7 – 9), yma yn Galeri. 
 
Dyma gyfle i blant ddysgu a datblygu sgiliau drama a pherfformio mewn sesiynau hwyliog dan ofal ein tiwtoriaid, Sion Emlyn a Tesni.
 
Cynhelir ar  nosweithiauLlun  rhwng  17:30 – 18:30 ar y dyddiadau isod:

Medi: 30
Hydref: 7, 14, 21
Tachwedd: 4, 11, 18, 25
Rhagfyr: 2, 9
 
10x gwers am £80.

Mae ambell le ar gael yn rhad ac am ddim i blant o deuluoedd incwm-isel. I ddatgan diddordeb yn y bwrsari yma, ebostiwchlowri.cet@galericaernarfon.com
 
Mae’r capasiti yn gyfyngedig, awgrymwn eich bod yn archebu eich lle yn gynnar.
 
Bwriad Sbarc yw i gynnig rhaglen newydd sbon o weithgareddau, gweithdai, a phrofiadau celfyddydol amrywiol drwy gydol y flwyddyn i ddatblygu sgiliau a chynnig cyfleoedd creadigol plant a phobl ifanc yr ardal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost at lowri.cet@galericaernarfon.com cyn y sesiwn gyntaf a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

 
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Cefnogi Adfywio Cyngor Gwynedd.

17:30 - Dydd Llun, 30 Medi Tocynnau