galeri


Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024 Wales Book of the Year Award Ceremony

image

Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau ein llenorion talentog Cymreig! Y digrifwr a’r cyflwynydd Tudur Owen fydd yn ein tywys drwy’r noson wrth i ni ddatgelu pwy sy’n dod i’r brig yn y categorïauBarddoniaeth,Ffuglen,Ffeithiol GreadigolaPhlant a Phobl Ifanc, yn ogystal â phwy fydd yn cipio gwobrauBarn y Bobla theitlLlyfr y Flwyddyn 2024.
Llyfr y Flwyddyn yw ein gwobrau llenyddol cenedlaethol sy’n dathlu llwyddiannau llenorion Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr i gyd, gyda chyfanswm o£14,000 o wobrauar gael i’r awduron llwyddiannus.

Cyhoeddwyd rhestr fer eleni mewn partneriaeth â BBC Radio Cymru ar ddydd Sul 12 Mai, ewch draw i’r dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn i weld yr holl deitlau.

Cofiwch bleidleisio am eich hoff lyfr ar y rhestrau byrion ar wefannau Golwg360 a Nation.cymru. 

Diolch i’n holl bartneriaid a noddwyr ni eleni am eu cyfraniadau a’u cefnogaeth. Noddir y seremoni a’r derbyniad gan Cwrw Llŷn, Distyllfa Penderyn a Brecon Carreg.

Cyflwynir y seremoni yn ddwyieithog ac fe fydd cyfieithydd ar y pryd Cymraeg – Saesneg ar gael. Cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru o flaen llaw am unrhyw anghenion hygyrchedd.

Ffôn: 01766 522 811 / 029 2047 2266
Ebost: post@llenyddiaethcymru.org

6:00 pm – Derbyniad 
7:00 pm – Seremoni’n dechrau

£10.00 yn cynnwys un diod 
(£7.50 consesiwn)
Nifer cyfyngedig ar gael.

19:00 - Dydd Iau, 4 Gorffennaf Tocynnau