galeri


Satu - Year of the Rabbit [12A]

image

Mae Bo yn ei harddegau ac yn ffoi o Laos yn y gobaith o gael gyrfa ym maes ffotonewyddiaduraeth, ond daw tro ar fyd wedi iddi gwrdd â Satu, plentyn amddifad Bwdhaidd sydd â'r union stori mae hi wedi bod yn chwilio amdani. Gyda’i gilydd, maent yn croesi’r dirwedd drofannol odidog ar feic modur, gan ddod o hyd i atebion — a chanfod mwy amdanyn nhw eu hunain — ar hyd y ffordd.

Dyma ffilm gyntaf y crëwr ffilmiau o Gymru, Joshua Trigg, ac mae’r gwaith ffilmio, a wnaethpwyd ar leoliad ar ffilm 16mm, yn syfrdanol.

Mi fydd recordiad 20 munud o sesiwn holi rhwng y cyfarwyddwr Joshua Trigg ac Ash Kriengsak yn dilyn y ffilm (dim digwyddiad byw).

Ffilm iaith Lao gydag isdeitlau Saesneg.

16:15 - Dydd Sadwrn, 12 Ebrill Tocynnau

13:15 - Dydd Mawrth, 15 Ebrill Tocynnau

16:15 - Dydd Iau, 17 Ebrill Tocynnau