Rhian Cadwaladr, awdur y llyfrau poblogaidd Casa Cadwaladr a Casa Dolig, sydd unwaith eto'n rhannu ei ryseitiau a'r profiadau o fwyta bwyd blasus yn y cartref neu ar grwydr. Ac mae'r elfen o rannu i'w deimlo'n gryf yn y gyfrol gartrefol hon wrth i Rhian ddisgrifio'r profiadau a'r bwydydd y mae'n eu rhannu efo'i ffrindiau a'i theulu.
Fel rhan o Ŵyl Fwyd Caernarfon eleni, dewch draw i’r bar yn Galeri i glywed Rhian Cadwaladr yn sgwrsio gyda Llinos Wynne am ei chyfrol newyddCasa Haf. Bydd cyfle i brynu copi gan Palas Print yn ystod y lansiad a chyfle hefyd i flasu ambell ryseit blasus o’r llyfr.
Digwyddiad am ddim. Croeso cynnes i bawb.
Digwyddiad Gwasg y Bwthyn.
11:00 - Dydd Sadwrn, 10 Mai Tocynnau