galeri


CROESO I BARADWYS

image

Pan mae criw o ofodwyr ifanc yn glanio ym Maen Dyfod, gwladfa’r Cymry ar y blaned Paradwys, mae'n nhw’n cael croeso cynnes, ac addewid o fyd hyfryd a heddychlon – ac ar yr olwg gyntaf, dyna’n union sydd yma. Ond ymhen hir a hwyr, mae’n dod i’r amlwg bod mwy o gwestiynau nag atebion. Beth yn union ydy hanes yr arlywydd carismatig? Pwy goblyn ydy T.E.C.S.? Ac ai’r Cymry ydy’r unig greaduriaid deallus ym Mharadwys?

Dewch i weld sioe gerdd Gymraeg newydd sbon o ddychymyg Hywel Pitts. Mwynhewch y caneuon gwreiddiol bachog, yr hiwmor dychanol, a’r cymeriadau lliwgar wrth i Gwawr a’i ffrindiau ddatgelu dirgelion Maen Dyfod a cheisio creu bywyd gwell ar blaned bell.


Cynhyrchiad Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.

Awdur a Cyfansoddwr: Hywel Pitts

Cyfarwyddwr: Lowri Mererid

Coreograffydd: Awen Pritchard

Hyfforddwyr Lleisiol: Lois Eifion ac Eleri Fôn

19:30 - Dydd Iau, 24 Ebrill Tocynnau

19:30 - Dydd Gwener, 25 Ebrill Tocynnau

19:30 - Dydd Sadwrn, 26 Ebrill Tocynnau