Taith Gyffwrdd: Arddangosfa Making Merrie Lewis Prosser
Profiad ymarferol llawn hwyl i oedolion 18+ ag anghenion ychwanegol / anableddau.
Rydym yn gyffrous i’ch gwahodd i Daith Gyffwrdd arbennig o amgylch arddangosfa Lewis Prosser o wisgoedd basged wedi’u gwehyddu. Mae'r digwyddiad hwn yn ymwneud â chyffwrdd, archwilio, a chwarae gyda'r basgedi mewn ffordd hwyliog a chyfeillgar!
Beth i'w Ddisgwyl:
Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i fod yn gefnogol ac yn hygyrch. Os ydych fel arfer yn cael cymorth mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd neu wrth fynychu gweithdai, dewch â pherson cymorth gyda chi. Bydd yr artist a’r cynorthwyydd yno i arwain y grŵp, ond efallai na fyddant yn gallu darparu cymorth un-i-un i’r holl gyfranogwyr.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
15:00 - Dydd Gwener, 28 Mawrth Tocynnau