Dewch i brofi SIX the Musical yn fyw o’r sinema!
Mae’r cast gwreiddiol o’r West End yn aduno yn Theatr Vaudeville yn Llundain o flaen cynulleidfa lawn i strytio ac ail-wampio eu trawma Tuduraidd mewn recordiad sinematig na ddylid ei golli o’r sioe eiconig yn llawn steil, sass, a chaneuon gwefreiddiol.
Wedi’i wylio gan gynulleidfaoedd o dros 3.5 miliwn, mae SIX the Musical, wedi troi yn ffenomen theatr fyd-eang ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2017 yn Edinburgh Fringe, ac wedi ailddiffinio ffiniau theatr gerdd. Mae’r sioe yn adrodd hanes rhyfeddol chwe gwraig y Brenin Harri VIII, sy’n camu allan o gysgod eu gŵr gwaradwyddus ac yn adennill eu naratifau eu hunain.
Wedi'i hysgrifennu gan Toby Marlow a Lucy Moss, mae'r sioe gerdd fodern yn rhoi llwyfan a llais i’r breninesau - Catherine of Aragon (Jarnéia Richard-Noel), Anne Boleyn (Millie O'Connell), Jane Seymour (Natalie Paris), Anne of Cleves (Alexia McIntosh), Katherine Howard (Aimie Atkinson), a Catherine Parr (Maiya Quansa)
19:00 - Dydd Mawrth, 8 Ebrill Tocynnau