Mae croeso i delynorion o bob oed a chyrhaeddiad i gofrestru ar gyfer Cwrs Undydd yr Ŵylwww.gwyltelyncymru.co.ukDyma gyfle gwych i dderbyn hyfforddiant gan diwtoriaid profiadol a chymryd rhan mewn gweithdai a pherfformiadau. Bydd y pwyslais ar ddatblygu sgiliau a mwynhau cyd-chwarae mewn awyrgylch gyfeillgar a chadarnhaol. Bydd bob aelod o’r cwrs yn cael eu rhoi mewn dosbarth gyda thelyorion eraill o lefel tebyg a bydd dosbarth ar gyfer oedolion. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn cynnwys Elinor Bennett, Dylan Cernyw, Glain Dafydd, Gwenan Gibbard a Catrin Morris Jones.
Am 5pm bydd holl aelodau’r cwrs yn perfformio gyda’i gilydd ar Galeriau Galeri – digwyddiad sydd ar agor i’r cyhoedd. Mynediad am ddim.
Cofrestru ar wefan yr Ŵyl Delynauwww.gwyltelyncymru.co.uk
09:30 - Dydd Mercher, 16 Ebrill Tocynnau