galeri


RHAGDDANGOSIAD | PREVIEW - Huw Fyw

image

Huw Fyw Gan Tudur Owen

“Paid byth â trio dy ora, cofia hynna, ella neith o safio dy fywyd di.”

Dyma stori gwir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.

Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio’r gorffennol.

80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma ddrama lwyfan newydd gan Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 paned gydag un bag te! Yn ei ddrama gyntaf i’r llwyfan, bydd Tudur hefyd yn serennu fel Huw Fyw, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly. Cyhoeddiad cast ehangach i ddilyn.

Cysylltwch gyda’r swyddfa docynnau er mwyn ychwanegu Taith Tywys a/neu Sain Ddisgrifiad.

Canllaw Oed: 11+

Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Gyda chefnogaeth Galeri Caernarfon.

19:30 - Dydd Iau, 1 Mai Tocynnau