TONIC - Ilid Anne
Dewch draw i Galeri am brynhawn difyr yng nghwmni yr aml-dalentog Ilid Anne Jones. Mae Ilid yn enw cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt ym myd cerddoriaeth fel pianydd ac organydd, ac wedi cyfeilio i enwogion megis Bryn Terfel a Rhys Meirion.
Mae cyngherddau TONIC yn rai hamddenol eu naws ac yn hygyrch ac agored i bawb. Cyngerdd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd paned i ddilyn (am ddim gyda’ch tocyn).