galeri


Wyneb Modern Cwmnïau Cydweithredol yng Nghymru

Dyma arddangosfa ddigidol sydd yn cynnwys gwaith a grëwyd rhwng 2015-2021 gan ffotograffwyr cyfoes o Gymru. Cyflwynir yr arddangosfa gan Ganolfan Cydweithredol Cymru i ddathlu 250 mlynedd ers genedigaeth Robert Owen, ac mae’n gasgliad o waith artistiaid sy’n cynnwys busnesau cydweithredol sy’n adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cydweithredol.

Ar 14 Mai 2021, byddwn yn cofio 250 mlynedd ers y ganwyd Robert Owen yn Y Drenewydd, Powys. Roedd Owen yn Gymro a oedd yn gynhyrchwr tecstilau, yn ddyngarwr ac yn ddiwygiwr cymdeithasol, ac roedd yn un o sylfaenwyr y mudiad cwmnïau cydweithredol a sosialaeth. Trwy gydol ei fywyd, bu'n hyrwyddo hawliau gweithwyr, gan arwain datblygiad cwmnïau cydweithredol a'r symudiad undebau llafur, a chefnogodd y cam o basio cyfreithiau llafur plant, gofal plant yn ystod y blynyddoedd cynnar ac addysg am ddim.

Mae syniadaeth Owen yn fyw heddiw, ac mae'n cael ei harddel gan y 474 o fusnesau cydweithredol annibynnol sy'n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd, a'r grwpiau cymunedol dirifedi sy'n gweithredu yn unol â gwerthoedd megis hunangymorth, hunan-gyfrifoldeb, democratiaeth, cydraddoldeb, tegwch a chydgefnogaeth.

Ar adeg pan welir diddordeb sylweddol mewn ‘ail-adeiladu er gwell' a mabwysiadu dull mwy cydweithredol tuag at adfywio cymunedol a datblygiad economaidd, mae'r ffotograffau'n adlewyrchu mudiad dynamig a ffyniannus sydd eisoes yn bresennol yng Nghymru. Mae'r gwaith a gyflwynir yma yn herio'r dybiaeth mai syniad hanesyddol a welwyd yn darfod yng nghanol yr ugeinfed ganrif yw cydweithredu a chwmnïau cydweithredol. Mewn amgylchedd ar ôl Covid, mae'n hollbwysig ein bod yn deall perthnasedd modern y symudiad cydweithredol, ac mae'r gwaith hwn yn cynnig cyfle i gynnal y sgwrs honno.

 

#RobertOwen250