Sesiwn Creu Zine making workshop gyda/with Rebecca F Hardy
Gweithdy dan ofal yr artist Rebecca F Hardy.
Drwy ddefnyddio cyfrwng cymysg (paent, posca pens, gludwaith, print) bydd y mynychwyr yn creu llyfryn zig zag neu zine.
Arddangosfa Gwobr Celf DAC fydd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cynnwys - gyda ffocws ar batrymau ailadrodd, theori lliw a naratif.
Mae’r sesiwn 2 awr o hyd ar agor i bobol ifanc ac oedolion - does dim angen unrhyw brofiad, dim ond dychymyg a'r awydd/diddoedrb i dreialu technegau a phrosesau amrywiol.
Bydd y sesiwn hefyd ar gael yn rhithwir trwy ymuno trwy ddolen Zoom. Cysylltwch â Ffion.evans@galericaernarfon.com os hoffech ymuno â'r sesiwn yn rhithwir. Os gwerthir pob tocyn ar gyfer y gweithdy ar ein gwefan bydd lleoedd rhithwir ar gael o hyd.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at ffion.evans@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.