galeri


Addysgu Rita

image

Y Consortiwm Cymraeg yn Cyflwyno'r Gomedi 

Addysgu Rita gan Willy Russell, wedi’I gyfieithu gan Gwawr Loader

Y ddrama a enillodd Wobr Olivier, yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.

Pan mae Rita, merch briod sy’n trin gwallt, yn cofrestru ar gwrs prifysgol er mwyn ehangu ei gorwelion, does ganddi ddim syniad beth fydd diwedd y daith.

Dyw ei thiwtor sinigaidd, Frank, y bardd rhwystredig, yr academydd disglair a'r yfwr ymroddedig, ddim yn frwdfrydig iawn i gymryd Rita dan ei adain. Ond daw'r ddau i sylweddoli cymaint sydd ganddyn nhw i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Bydd y gomedi ddoniol a chynnes hon yn swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru.

"Wrth wraidd y ddrama mae bod dynol sy'n awchu am rywbeth gwell, ac mae hynny'n brofiad sylfaenol a chyntefig.”

19:30 - Dydd Mawrth, 12 Mai Tocynnau

19:30 - Dydd Mercher, 13 Mai Tocynnau