galeri


Croendena

image

TOCYNNAU AR WERTH O 10:00, DYDD GWENER – 21.10.22


Mae Nel yn 17 oed ac yn darganfod dihangfa yn y pyb ar ben yr allt sy’n llawn fflyrtio, rhagfarnau a lloriau sdici. Dyma stori ddigri a thorcalonnus am fywyd merch ifanc sy’n trio ffendio’i thraed ynghanol unigrwydd gwledig. 

Croendena yw cynhyrchiad diweddaraf y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru. 

Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.

Canllaw oed: 14+

19:30 - Dydd Llun, 20 Chwefror Tocynnau

19:30 - Dydd Mawrth, 21 Chwefror Tocynnau