galeri


Dynolwaith

image

DYNOLWAITH

Dyn mewn datblygiad

Mae’n 2015. Mae Jac yn ddyn traws ifanc, wedi’i eni yn y corff anghywir, yn dechrau chwilio am y bywyd mae o wir eisiau ei fyw.

Wrth iddo gychwyn ar y daith o drawsnewid, mae tensiynau’n codi, mae perthnasoedd yn dechrau teimlo’r straen, ac mae’r gefnogaeth sydd wastad wedi bod yn gadarn yn dechrau teimlo’n fregus. Pan gaiff ei wrthod mae’n ei cholli hi ac yn gwthio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf.

All Jac ddibynnu ar y rhai agosaf ato pan mae o eu hangen fwyaf?

Wedi ei ’sgwennu a’i berfformio gan Leo Drayton, dyma stori hynod bersonol ac emosiynol am hunan-ddarganfod, dewrder a thrawsnewidiad fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llenni gau.

Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan | Leo Drayton (fo)

Cyfarwyddwr | Gethin Evans (fo)

Cyfarwyddwr Cynorthwyol | Kayley Roberts (nhw)

Dylunio Goleuo | KJ (nhw)

Dyluniad | Cara Evans (nhw/hi)

Composer | Melfed Melys (hi/nhw)

Dylunydd Sain | Sam Jones (fo)

Trans Consultant | Kay R.Dennis (nhw) 


Canllaw oed 16+

19:30 - Dydd Iau, 9 Hydref Tocynnau