
Mae Sbarc yn ôl gyda tymor gyfan o wersi drama wythnosol ar gyfer plant blwyddyn ysgol 5 a 6 (oed 9 – 11), yma yn Galeri.
Dyma gyfle i blant ddysgu a datblygu sgiliau drama a pherfformio mewn sesiynau hwyliog dan ofal ein tiwtoriaid, Sion Emlyn a Tesni.
Cynhelir ar nosweithiau Llun rhwng 18:30 – 19:30 ar y dyddiadau isod:
Ionawr: 12, 19, 26
Chwefror: 2, 9, 23
Mawrth: 2, 9, 16, 23
Mae tymor yn costio £85.
Oherwydd capasiti cyfyngedig, rydym yn blaenoriaethu aelodau i archebu eu llefydd gyntaf cyn agor llefydd gwag.
Mae ambell le ar gael yn rhad ac am ddim i blant o deuluoedd incwm-isel.
I ddatgan diddordeb yn y bwrsari yma, ebostiwch lowri.cet@galericaernarfon.com
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost at lowri.cet@galericaernarfon.com cyn y sesiwn gyntaf a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
18:30 - Dydd Llun, 12 Ionawr Tocynnau