galeri


Catrin Finch | Lee House : SATORU

image

Camwch i mewn i fyd lle mae sain yn troi’n deimlad, ac mae cerddoriaeth yn meiddio holi’r cwestiynau na all geiriau eu gofyn. Mae'r profiad trochol hwn yn asio telyn arbrofol gyda thriniaeth electronig, a’r gair llafar i’ch tywys drwy daith bersonol ddwys, sonig. Mae pob nodyn, pob ymadrodd yn edau sy'n eich tynnu trwy ddirgelwch, emosiwn a datguddiad. Disgwyliwch gael eich cyffroi, eich cynhyrfu, a'ch trawsnewid.

19:30 - Dydd Gwener, 10 Hydref Tocynnau