galeri


Taclus (Tidy)

image

Polka Theatre  + Theatr Iolo yn cyflwyno Taclus (Tidy)
Yn seiliedig ar y llyfr darluniedig i blant gan Emily GravettCrëwyd ar y cyd gan Lee Lyford, Lucy Rivers a Rachael Canning

Mae Pete y mochyn daear yn hoffi cadw pob dim yn dwt ac yn daclus: pob blodyn, pob deilen, a phob anifail fel pin mewn papur. Pan ddaw’r hydref, mae e’n tacluso, yn tacluso ac yn tacluso unwaith eto, nes ei fod yn difetha’r goedwig gyfan, ac yn colli ei gartref!

Yn seiliedig ar y llyfr hynod boblogaidd i blant gan yr awdur a’r darlunydd Emily Gravett, maeTidyyn chwedl sy’n ein hatgoffa ni mor bwysig yw’r byd o’n cwmpas ni a’r hyn sy’n digwydd pan na fyddwn yn gofalu amdano. 

Gyda phypedau hyfryd, cerddoriaeth wreiddiol a thamaid o ddwli ac anrhefn pur, dyma’r stori berffaith i ddiddanu cynulleidfaoedd ifanc.

Cynhyrchiad iaith Gymraeg ar gyfer plant 3 – 7 oed.

13:00 - Dydd Llun, 3 Mawrth Tocynnau

10:30 - Dydd Mawrth, 4 Mawrth Tocynnau

13:00 - Dydd Mawrth, 4 Mawrth Tocynnau