galeri


Sbarc – Clwb Drama Blwyddyn 7-9

image

Rhwng blwyddyn 7 ac 9? Hoffi actio, canu, a dawnsio? Ymunwch â Sbarc wrth i ni weithio tuag at ein cynhyrchiad nesaf… Aberhenfelen!

Ysgrifennwyd y sioe gerdd Aberhenfelen yn 2018 yn wreiddiol i gwmni Theatr yr Urdd a Theatr Bara Caws gan Mared Llywelyn, Grug Muse a Sara Anest, a theithwyd y sioe gan gwmni ifanc o gast a chriw o ledled Cymru yn haf 2019 – gan gynnwys yma yn Galeri!

Dan thiwtoriaid bywiog, cyffrous a phrofiadol, bydd ymarferion pob nos  Fercher 17:30 – 20:00  ar y dyddiadau canlynol :

Medi 3, 10, 17,  24

Hydref 1, 8, 15, 22

Tachwedd 5, 12, 15* + 16*

 

*Ymarferion tech a gwisg

Bydd y sioe ar nos Fercher TACHWEDD 19,2025.
Bydd ambell i ddiwrnod ychwanegol o ymarfer ar gyfer canu a coreograffi ar benwythnosau i’w gadarnhau yn fuan.

Mae aelodaeth y tymor yn costio £90.00, ond mae cynlluniau talu ar gael, ac hefyd bwrsarïau i bobl ifanc o deuluoedd incwm-isel. Cysylltwch gyda Lowri i drafod rheiny arlowri.cet@galericaernarfon.com

Mae llefydd yn gyfyngedig, felly bwciwch eich lle reit handi!

Nodyn pwysig:

Er mwyn uchafu’r amser ymarfer sydd gennym, gofynnwn i chi wneud fideo byr yn darllen detholiad o’r sgript er mwyn hwyluso a cyflymu’r broses castio. I’r rhai sydd yn hapus i ganu unawd, gallwch dangos eich doniau lleisiol i ni yn y fideo yma hefyd! Bydd fwy o manylion a’r sgript ar gael i chi drwy ebost ar ol i chi dalu am aelodaeth a chwblhau’r ffurflen aelodaeth.

17:30 - Dydd Mercher, 3 Medi Tocynnau