galeri


Aberhenfelen

image

Aberhenfelen

 

Dewch i mewn, gadewch ofidiau efo’ch sgidiau budron wrth y drws – yma efo ni yn Ynys Gwales melys fydd eich cwsg. Hidiwch befo, yma gwelwch chi eich ofnau’n cilio… ond ers i Rhiannon a’i hadar hudolus gael eu disodli gan Iolo Morganwg fel rheolwr, sut le sydd ar yr ynys baradwysaidd erbyn hyn? Caiff 5 o Gymry ifanc, sydd newydd lanio ar Ynys Gwales am wythnos o wyliau, brofiadau arallfydol yng nghwmni rhai o gymeriadau mwyaf brith ein hanes.

 

Awduron: Sara Anest, Elan Grug Muse, Mared Llywelyn

Cyfarwyddo: Meilir Rhys Williams

Cerddoriaeth: Ifan Sion Davies a Rhodri Williams

Coreograffi: Cêt Haf

Cynllunio: Erin Maddocks

 

Cynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd dan adain Cwmni Theatr Bara Caws.

14:00 - Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf Tocynnau

19:00 - Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf Tocynnau