galeri


Noson yng nhgwmni Dylan a Neil a Ffrindiau

image

Noson yng nghwmni Dylan a Neil a Ffrindiau

Dilwyn Morgan yn cyflwyno noson o ganu gwlad gyda Dylan a Neil, John ac Alun, Wil Tân a Ceri, Meilir ac Efa, a gwestai arbenning Annette Bryn Parri.

Mae Dylan a Neil yn dychwelyd i Galeri, ond y tro hwn yn ymuno â’r ddeuawd, bydd cerddorion gwadd yn ychwanegu at sain unigryw y tad ar mab o’r Felinheli, gan gludo’r gynulleidfa drwy bum degawd o ganu.

Cychwynodd Dylan ganu nôl ar ddechrau’r saithdegau gyda’r grŵp Y Castaways, ac i ddilyn, sefydlu Traed Wadin hyd at ddiwedd yr wythdegau.

I ddathlu dros 30 mlynedd o berfformio gyda’i gilydd ar hyd a lled y wlad, dyma gyflwyno noson o ganu gwlad ar ei orau gyda’r tab a’r mab a’u ffrindiau.

Dewch i glywed yr hên ffefrynnau megis Tafarn y Garddfon, Pont y Cim, Potel Fach o Win, Mynd Fel Bom a llawer iawn mwy.

Mi fydd hi’n siwr o fod yn noson i’w chofio!

19:30 - Dydd Sadwrn, 6 Medi Tocynnau