Mae Sbarc yn ôl gyda tymor gyfan o wersi drama wythnosol ar gyfer plant blwyddyn ysgol 5 a 6 (oed 9 – 11), yma yn Galeri.
Dyma gyfle i blant ddysgu a datblygu sgiliau drama a pherfformio mewn sesiynau hwyliog dan ofal ein tiwtoriaid, Sion Emlyn a Tesni.
Cynhelir ar nosweithiau Llun rhwng 18:30 – 19:30 ar y dyddiadau isod:
Ebrill: 28
Mai: 12, 19
Mehefin: 2, 9, 16, 23, 28/29*,30**
Gorffennaf: 7
* Bydd ymarfer ychwanegol ar benwythnos Mehefin 28/29 (diwrnod penodol i’w gadarnhau).
** Noson sioe Sbarc, Yr Archarwyr a’r Ruddem Ryfeddol.
Mae tymor yn costio £80.
Oherwydd capasiti cyfyngedig, rydym yn blaenoriaethu aelodau i archebu eu llefydd gyntaf cyn agor llefydd gwag.
Mae ambell le ar gael yn rhad ac am ddim i blant o deuluoedd incwm-isel. I ddatgan diddordeb yn y bwrsari yma, ebostiwch lowri.cet@galericaernarfon.com
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost atlowri.cet@galericaernarfon.comcyn y sesiwn gyntaf a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.
18:30 - Dydd Llun, 28 Ebrill Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 12 Mai Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 19 Mai Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 2 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 9 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 16 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 23 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Sadwrn, 28 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Sul, 29 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 30 Mehefin Tocynnau
18:30 - Dydd Llun, 7 Gorffennaf Tocynnau