galeri


Sbarc – Clwb Drama Blwyddyn 3 a 4

image

Mae cofrestr Sbarc yn llawn ar hyn o bryd. Os hoffech ymuno â'r restr aros, cwblhewch y ffurflen yma: Rhestr Aros Sbarc

Mae Sbarc yn ôl gyda tymor gyfan o wersi drama wythnosol ar gyfer plant blwyddyn ysgol 3 a 4 (oed 7 – 9), yma yn Galeri. 

Dyma gyfle i blant ddysgu a datblygu sgiliau drama a pherfformio mewn sesiynau hwyliog dan ofal ein tiwtoriaid, Sion Emlyn a Tesni.

Cynhelir ar nosweithiau Llun rhwng 17:30 – 18:30 ar y dyddiadau isod:

Ebrill: 28 

Mai: 12, 19

Mehefin: 2, 9, 16, 23, 28*,30**

Gorffennaf: 7

* Bydd ymarfer ychwanegol ar ddydd Sadwrn Mehefin 28.

** Noson sioe Sbarc, Yr Archarwyr a’r Ruddem Ryfeddol.

Mae tymor yn costio £80.

Oherwydd capasiti cyfyngedig, rydym yn blaenoriaethu aelodau i archebu eu llefydd gyntaf cyn agor llefydd gwag.

Mae ambell le ar gael yn rhad ac am ddim i blant o deuluoedd incwm-isel. I ddatgan diddordeb yn y bwrsari yma, ebostiwch  lowri.cet@galericaernarfon.com

Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, afonwch e-bost at  lowri.cet@galericaernarfon.com  cyn y sesiwn gyntaf a byddwch yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

Cefnogir y prosiect gan Gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.

17:30 - Dydd Llun, 23 Mehefin Tocynnau

17:30 - Dydd Sadwrn, 28 Mehefin Tocynnau

17:30 - Dydd Sul, 29 Mehefin Tocynnau

17:30 - Dydd Llun, 30 Mehefin Tocynnau

17:30 - Dydd Llun, 7 Gorffennaf Tocynnau