galeri


Brigyn

image

Mae Brigyn yn dathlu 20 mlynedd o gyfansoddi, recordio a pherfformio eu cerddoriaeth, ac yn dychwelyd i’w cynefin i berfformio yn Galeri am y tro gynta’ ers mwy na degawd! Mae melodiau a sŵn unigryw y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts wedi galluogi iddynt berfformio ym mhrif wyliau gwerinol Prydain - o’r Green Man Festival, i Celtic Connections yn Glasgow. Maent yn adnabyddus am eu fersiwn arbennig o “Hallelujah” gan Leonard Cohen a nifer fawr o alawon cyfoes Cymraeg gwreiddiol.

Cefnogaeth i’w gyhoeddi.

19:30 - Dydd Sadwrn, 17 Mai Tocynnau