galeri


Arddangosfeydd

Dyma’r arddangosfeydd sydd gennym yma’n Galeri ar hyn o bryd:

Rhaglen Celf Galeri (PDF)

Casgliad o luniau o waith tim foxon

AR Y FFRÂM: Great Vine

Tim Foxon

15/04/26 - 07/07/26

Gosodiad, wedi ei greu gan beli traeth porffor ac offer pwll nofio chwyddadwy, wedi'u trefnu i edrych yn debyg i fwnsiad o rawnwin. Bydd yr arddangosfa yn efelychu cylchred naturiol wrth i'r "ffrwythau" synthetig golli aer a chrebachu dros amser.


Casgliad o luniau o waith tim foxon

Y WAL: Dyluniadau 'heb edrych'

Tim Foxon

15/04/26 - 07/07/26

Portreadau sy'n cael eu creu heb i'r artist edrych ar y papur tan fod y darn wedi'i gwblhau. Gan ganolbwyntio'n unig ar y testun, mae'r artist yn ymddiried yn ei synnwyr o symudiad i greu dyluniadau unigryw ac amhosib eu hail-greu. Mae’r broses yn gyflym ac yn reddfol; os yw’n cymryd gormod o amser, mae perygl o golli cyfeiriad, gan nad oes modd gwirio a yw’r llun wedi mynd oddi ar y trywydd. Rhaid gwneud y llinellau’n sydyn ac yn hyderus, gan obeithio bod pob marc yn glanio'n y lle cywir. Oherwydd y dull hwn, mae’r lluniadau’n unigryw ac yn amhosib eu hail-greu.


Llun o waith sonimod y wal

Y WAL: Sonimod

Tim Foxon

15/04/26 - 07/07/26

Mae un o waliau Galeri wedi'i gorchuddio â dros 10,000 o ddominos lliwgar, pob un wedi cael eu gosod yn ofalus i sicrhau nad yw lliwiau sy'n cyfateb yn cyffwrdd ei gilydd. Mae'r wal yn ymddangos fel sgrin deledu picseledig, ei phetryalau bach wedi'u cymysgu fel pe bai'r lliwiau unwaith yn ffurfio delwedd a oedd yn gwneud synnwyr.


Lluniau o arddangosfeydd yn y caffi yn y Galeri

ORIEL CAFFI: Dyluniadau ‘heb edrych’ Clwb Creu

Plant Clwb Creu

15/04/26 - 07/07/26

Bwriad y gweithdy oedd herio plant lleol i roi cynnig ar eu lluniadau 'heb edrych' eu hunain. Dechreuon ni gyda siapiau a llythrennau mewn llyfrau braslunio, i gael teimlad o'r dechneg cyn symud ymlaen i wrthrychau fel teganau a rhannau o'r corff. Wrth i'r sesiwn fynd yn ei blaen, daeth y plant yn fwy hyderus yn eu gwaith  ac roedd ganddyn nhw well syniad o sut i lywio tudalen heb edrych. I orffen, fe wnaethon ni luniadu ein gilydd a gweithio mewn parau i wneud ein portreadau 'heb edrych', cyn eu haddurno ac ychwangeu manylion terfynol iddynt (wrth edrych).


arddangosfa atgofion

SAFLE CELF: Atgofion

Coleg Menai

18/04/2026 - 16/05/2026

Dyma gasgliad o waith naw o artistiaid sy’n archwilio syniadau o le, cof, ffurfiau a gwead. Defnyddir amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys clai, ffotograffiaeth, deunydd wedi ei ailgylchu a thechnegau digidol.

Artistiaid: Adam Nelson, Caron Bebbington, Sophie Doig, Lois Foulkes, Ruth Hunt, Nan Jones, Arwen Long, Moli Prendergast, Emily Williams.


Archif Safle Celf

Arddangosfeydd sydd wedi bod yn Galeri

Diddordeb mewn arddangos?

Cysylltwch â’n cydlynydd celf a chrefft am sgwrs ac i drafod y broses o ymgeisio am arddangosfa: celf@galericaernarfon.com
01286 685 208

I'r Byw