galeri


Galwad am Gerddorion Jazz o Gymru

Archwilwyr Jazz Explorers

Awduron: Galeri, Caernarfon, Theatr Clwyd Music Trust, Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Canolfan Gerdd William Mathias

Dyddiad Cau: hanner nos 03/07/22
Cyfweliadau anffurfiol ar zoom 07/07/22

Pwy ydyn ni?

Prosiect sydd wedi cael ei ddatblygu gan Cymru Jazz Wales yw 'Archwilwyr Jazz Explorers'. Cyfuniad o gerddorion llaw-rydd, gwasanaethau cerdd, lleoliadau cerddoriaeth a chyrff fel Tŷ Cerdd, sydd wedi eu hariannu gan gynllun Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru yw Archwilwyr Jazz Explorers.

Bydd y prosiect yn archwilio ffyrdd newydd o gyd-weithio rhwng cerddorion llaw-rydd a hyrwyddwyr cerdd byw, addysgwyr cerdd a sefydliadau dysgu ledled Cymru. Bydd hwn yn un o dri phrosiect peilot ar draws Cymru fydd yn cael eu defnyddio i hysbysu strategaethau, i ysbrydoli diddordeb ac ymgysylltiad gyda chynulleidfaoedd a phobl ifanc ac i ddatblygu gyrfaoedd cynaliadwy ar gyfer cerddorion jazz ac artistiaid creadigol Cymru.

Am bwy rydyn ni'n edrych:

Rydym yn edrych am ensemble / grwp o gerddorion jazz yng Nghymru sydd wedi arfer cydweithio efo’i gilydd ac sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14-18, i’w cyflwyno ac i ddatblygu eu diddordeb mewn jazz trwy weithdai creadigol / perfformio. Bydd y prosiect yn cynnwys gweithdy agoriadol gyda tua 20 o bobl ifanc, ac un sesiwn terfynol, fydd yn cynnwys perfformiad wedi'i ysbrydoli gan gerddoriaeth jazz gan y bobl ifanc, yn ogystal â'r cerddorion jazz arweiniol. Bydd dau diwtor, wedi eu trefnu gan y sefydliadau partner, yn bresennol ymhob un o’r digwyddiadau a nodwyd ac yn rhedeg gweithdai rheolaidd efo’r bobl ifanc gydol cyfnod y prosiect.

Byddai’r gallu i gynnig sesiynau yn ddwyieithog yn fanteisiol, er nad oes angen i bob aelod o’r grwp fedru siarad Cymraeg a dylai rhai nad ydynt yn medru siarad Cymraeg barhau i ymgeisio.

Bydd yn fanteisiol os oes gennych brofiad o redeg gweithdai, ond bydd cymorth ar gael yn ystod y broses o gynllunio a darparu'r sesiynau.

Mae'r prosiect yma wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru. Galeri, Caernarfon a Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug fydd lleoliad y ddwy Ganolfan Bydd y lansiad a'r digwyddiadau terfynol yn digwydd yn Galeri, Caernarfon. Bydd y gallu i deithio rhwng y lleoliadau cerddoriaeth yn hanfodol.

Dyddiadau'r Gweithdai/perfformiadau:

Lansio'r Gweithdai/perfformiadau (4 awr ynghyd ag amser egwyl) 24/09/22
Y Digwyddiad Terfynol 26/11/22 (4 awr ynghyd ag amser egwyl )

Gwybodaeth ariannol:

Digwyddiad Lansio: £165 yr un ar gyfer pob aelod o'r grwp /ensemble
Digwyddiad Terfynol: £165 yr un ar gyfer bob aelod o'r grwp /ensemble
Bydd costau teithio y tu hwnt i 30 milltir radiws a chostau llety yn cael eu darparu os byddant wedi cael eu cymeradwyo o flaen llaw.

Ymgeiswyr:

Ffurflen gais ar gael YMA (word)

Dylai'r ymgeiswyr gyflwyno cynnig yn amlinellu pam eu bod yn dymuno bod yn rhan o'r prosiect hwn a beth sydd yn eu gwneud yn addas ar gyfer y rôl yma, yn cynnwys sut y byddent yn mynd ati i ymdrin â'r prosiect. Dylai ymgeiswyr gynnwys dolenni ar gyfer eu cerddoriaeth ar YouTube, Soundcloud neu unrhyw wefan addas arall. 

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg. 

Dylai'r cynigion gael eu hanfon at: naomi.saunders@galericaernarfon.com erbyn hanner nos 03/07/22