Dathlu beth felly?
Dau beth - Pen-blwydd Dafydd yn 80 (ar Awst 24ain), a dathlu 40 mlynedd ers geni 'Yma o Hyd', y gân sydd bellach wedi teithio'r byd yn gyfan.
Bydd rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru yn ymuno â Dafydd mewn tri chyngerdd yma yn Galeri ar lannau'r Fenai yng Nghaernarfon, ar Dachwedd 9fed, 10fed a'r 11ed.