MADFABULOUS [12A] Hamddenol | Relaxed
DIGWYDDIAD HAMDDENOL
Pan fydd Henry Paget, sy’n ddyn bywiog a lliwgar, yn cyrraedd Gogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd, mae ei ddawn theatrig a’i ecsentrigrwydd herfeiddiol yn gyrru siocdonnau drwy’r dosbarth uwch, er mawr ddifyrrwch i’r trigolion lleol. Ochr yn ochr â’i gyfnither fywiog, a’i fwtler ffyddlon, Gelert, ceisiai Henry naddu hunaniaeth iddo’i hun fel y Pumed Marciws. Ond, gyda thraddodiadau myglyd, cynllwyniau ei berthnasau a chysgod llethol ei dad yn bwrw drosto, mae ei daith tuag at uchafiaeth yn llawn rhwystrau.
Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.