galeri


Blasu Crefft 2026

image

Dyma weithdai creadigol gyda'r nos sy'n cael eu arwain gan artist proffesiynol gwahanol - a hynny'n fisol. Ymunwch â ni mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar i ddysgu neu ddatblygu eich sgiliau creadigol. Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer unrhyw un oed 16+ ac yn cael ei gynnal rhwng 18:00 - 20:00.


25/06/26 - Sioned Evans - Gwneud broetsh tecstilau 
16/07/26 - Sian Lester - Arbrofi gyda Thechneg Gwrthsefyll Shibori 
20/08/26 - Katie Ellidge - Gweithdy Creadigol 
17/09/26 - Chris Higson - Gweithdy paentio 
 22/10/26 - Emily Hughes - Gweithdy Cerameg

£30 y sesiwn *i gynnwys diod. Cynnig arbennig o £120 am y 5 sesiwn. Nid oes angen profiad, bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Nifer cyfyngedig o leoedd ar gael.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein digwyddiadau yn hygyrch i bawb ac rydym wedi ymrwymo i geisio darparu ar gyfer unrhyw addasiadau rhesymol. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad, anfonwch e-bost at post@galericaernarfon.com cyn y digwyddiad a byddwn yn gallu trafod sut y gallwn eich cefnogi.

18:00 - Dydd Iau, 25 Mehefin Tocynnau

18:00 - Dydd Iau, 16 Gorffennaf Tocynnau

18:00 - Dydd Iau, 20 Awst Tocynnau

18:00 - Dydd Iau, 17 Medi Tocynnau

18:00 - Dydd Iau, 22 Hydref Tocynnau