galeri


MADFABULOUS [12A]

image

Pan fydd Henry Paget, sy’n ddyn bywiog a lliwgar, yn cyrraedd Gogledd Cymru yn y 1890au i hawlio ei etifeddiaeth aristocrataidd, mae ei ddawn theatrig a’i ecsentrigrwydd herfeiddiol yn gyrru siocdonnau drwy’r dosbarth uwch, er mawr ddifyrrwch i’r trigolion lleol. Ochr yn ochr â’i gyfnither fywiog, a’i fwtler ffyddlon, Gelert, ceisiai Henry naddu hunaniaeth iddo’i hun fel y Pumed Marciws. Ond, gyda thraddodiadau myglyd, cynllwyniau ei berthnasau a chysgod llethol ei dad yn bwrw drosto, mae ei daith tuag at uchafiaeth yn llawn rhwystrau.

Dathliad dros ben llestri a digyfaddawd o arwahanrwydd, wedi’i ysbrydoli gan stori wir. Ymysg y sêr, mae enwebai BAFTA, Callum Scott Howells (It’s a Sin, The Beautiful Game), ynghyd â chast cefnogol rhagorol sy’n cynnwys Rupert Everett (enwebai; The Happy Prince, An Ideal Husband), Ruby Stokes (Jay Kelly, Bridgerton), enillydd BAFTA Siobhán McSweeney (Derry Girls, Alice Through the Looking Glass), Louis Hynes (A Series of Unfortunate Events, The Great), Louise Brealey (Sherlock, Brian and Charles), Tom Rhys Harries (White Lines, The Gentlemen) a Paul Rhys (Wuthering Heights, Saltburn).

Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.

Mynediad am ddim i Blas Newydd gyda phob tocyn sinema Madfabulous Diolch i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, rydym yn falch o gynnig mynediad am ddim i Blas Newydd a’r Ardd, cartref teuluol 5ed Ardalydd Môn, gyda phob tocyn sinema Madfabulous, gan roi cyfle i chi ddarganfod mwy am y person a ysbrydolodd y ffilm. Gall ymwelwyr â Phlas Newydd ddangos eu tocyn sinema (argraffedig neu ddigidol) wrth gyrraedd i gael mynediad am ddim i Blas Newydd. Bydd un tocyn sinema yn caniatáu un tocyn mynediad am ddim i Blas Newydd a’r Ardd, sy’n cynnwys mynediad i weld yr ystafell arddangos ‘Gwisgo’n Ffansi’, sy’n arddangos pum gwisg o’r ffilm Madfabulous. · Mae'r cynnig ar gael tan ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026. · Sylwch nad yw'r tocyn yn drosglwyddadwy ac nad oes modd cyfnewid am arian · Nid yw'r tocyn yn ddilys mewn digwyddiadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae tâl ar wahân yn berthnasol. · Dim ond mewn sinemâu sy'n cymryd rhan y mae'r cynnig yn ddilys. · Mae Ymddiriedolaeth Genedlaetholo yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg. Cynlluniwch eich ymweliad yma; www.nationaltrust.org.uk/tocyn-sinema

14:15 - Dydd Llun, 15 Mehefin Tocynnau

19:15 - Dydd Llun, 15 Mehefin Tocynnau

14:15 - Dydd Mawrth, 16 Mehefin Tocynnau

19:15 - Dydd Mawrth, 16 Mehefin Tocynnau

11:15 - Dydd Mercher, 17 Mehefin Tocynnau

14:15 - Dydd Mercher, 17 Mehefin Tocynnau

19:15 - Dydd Mercher, 17 Mehefin Tocynnau

14:15 - Dydd Iau, 18 Mehefin Tocynnau

11:00 - Dydd Gwener, 19 Mehefin Tocynnau

11:00 - Dydd Sadwrn, 20 Mehefin Tocynnau

11:00 - Dydd Llun, 22 Mehefin Tocynnau

11:00 - Dydd Mawrth, 23 Mehefin Tocynnau

11:00 - Dydd Mercher, 24 Mehefin Tocynnau


Trêl