TOP GUN (40th Anniversary) [12A]
Ysgol Arfau Ymladdwyr Llyngesol Top Gun yw'r lle mae'r goreuon yn hyfforddi i fireinio eu sgiliau hedfan elitaidd. Pan anfonir Marverick, peilot awyren ymladd mentrus, i'r ysgol mae ei agwedd ddiofal a hyderus yn achosi tensiwn rhyngddo ef a'i gyd-beilotiaid, yn enwedig Iceman sy'n dawel ac yn hunan-reolus.
Sicrhewch eich bod yn cyrraedd Galeri gyda digon o amser (gan gysidro traffic / parcio) – mae hawl gennym wrthod myneiad i’r ffilm os yn cyrraedd yn hwyr. Bydd pris tocynnau yn codi £1.50 yr un ar ddiwrnod y dangosiad (os oes tocynnau ar gael). Mae pris tocynnau yn cynnwys ffi archebu o £2 y tocyn.
Rydym bob amser yn dilyn rheolau cenedlaethol am raddfa oedran ffilm, ac os ydych chi'n ddigon lwcus i edrych yn iau na radd y ffilm, byddwn yn gofyn i weld math o ID. Am fwy o wybodaeth: Our Age Ratings | BBFC