galeri


The Ultimate Bubble Show

image

Mae Ray Bubbles yn Swigenolegydd Rhyngwladol ac ar genhadaeth i feistroli’r grefft o greu swigod a chreu’r swigen sgwâr!

Mae’r sioe yma yn gaddo corwynt o gyffro, wrth i Ray ddefnyddio amryw o nwyon i grefftio cerfluniau hyfryd ac effeithiau hudol o swigod.
Gwyliwch mewn syfrdan wrth i Ray greu swigen ‘llosgfynydd’, carwsél swigod sebon, swigen ysbryd, ac hyd yn oed trowynt tu mewn i swigen!
Mae’r sioe wedi ei ysbrydoli gan waith Ray efo ysgolion ADY, grwpiau oedolion niwroamrywiol, a chanolfannau gwyddoniaeth ar draws Ewrop.
Mae’r perfformiad yn addas ar gyfer plant ac oedolion gydag anghenion ychwanegol.
Ymunwch â Ray i weld os gallai o greu swigen sgwâr!

Hyd: 65 munud (dim egwyl)

13:00 - Dydd Mercher, 27 Mai Tocynnau