galeri


Rhostio'r Beirdd a Doethineb y Dorf

image

Noson o farddoniaeth a chomedi Cymraeg yng nghwmni dewinau a dewinesau geiriau. Yn un hanner y noson dan ofal Eurig Salisbury a Gruff Antur bydd criw o feirdd yn gwatwarei gilydd mewn fformat newydd sbon o hen draddodiad sy’n dyddio nol i gyfnod Guto’r Glyn ac yn hanner arall y noson, criw o gomedïwyr gwych sy’n derbyn her gan Gethin Evans a Chris Roberts i weld pa mor dda maen nhw’n nabod pobl Cymru. 

Disgwylir iaith gref a llond bol o chwerthin.

19:30 - Dydd Sadwrn, 14 Mawrth Tocynnau