George Egg yw’r digrifwr sy’n coginio
Mae George Egg wedi ennill gwobrau ac wedi gwerthu sawl sioe i’r dim, yn dychwelyd o Ŵyl Ffrinj Caeredin gyda sioe hyfryd sy’n cynnwys y darnau gorau o’i sioeau comedi-a-choginio blaenorol, ynghyd ag ambell i syndod newydd.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae George wedi teithio tair sioe (‘Anarchist Cook’, ‘DIY Chef’ a ‘Movable Feast’), ac mae wedi coginio dros fil o brydau, pob un ohonynt o flaen cynulleidfa fyw ac heb gegin o gwbl.Wrth ail-ymweld â’r amgylcheddau annisgwyl hynny, wedi’i arfogi â’r sgiliau cogyddion y mae wedi’u hogi, gallwch ddisgwyl dysgu sut i baratoi bwyd ar drên gyda gliniadur, mewn sied gyda theclynnau pŵer, ac mewn ystafell westy gan ddefnyddio’r cyfarpar y maen nhw’n ei ddarparu’n ddiarwybod. Tri phryd bwyd gourmet wedi’u paratoi yn y ffyrdd mwyaf anghonfensiynol – a chyfle i flasu’r canlyniadau ar y diwedd.
Mae’n bryd cael y ryseitiau doniolaf a’r jôcs mwyaf blasus wrth i George ddychwelyd i Gaernarfon.
Canllaw oedran: 14+
Hyd:80 munud + egwyl
20:00 - Dydd Sadwrn, 14 Chwefror Tocynnau