galeri


Cymraeg Mandinka Connections | Mari Mathias & Sura Susso

image

MaeCymraeg Mandinka Connectionsyn gydweithrediad cerddorol rhwng y gantores Gymreig Mari Mathias a’r chwaraewr kora o Gambia, Sura Susso, sy’n archwilio’r traddodiad o adrodd straeon trwy gerddoriaeth yng Nghymru ac yn Gambia. Daw Sura o linach griot (Jali), gan ddod â hanes llafar cyfoethog diwylliant Mandinka Gorllewin Affrica, tra bo Mari yn tynnu ar chwedloniaeth a llên gwerin Gymreig yn ei steil gwerin amgen.

Mae’r ddau yn perfformio yn eu hiaith gyntaf, gan ddathlu a chadw eu gwreiddiau diwylliannol. Mae’r prosiect yn cysylltu hen straeon a rhai cyfoes, gan hyrwyddo’r ieithoedd Cymraeg a Mandinka i gynulleidfaoedd newydd.

Hyd y perfformiad:45 munud – egwyl 20 munud – 45 munud.

Hygyrchedd:Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad megis lle addas ar gyfer cadair olwyn yn yr awditoriwm, neu unrhyw anghenion mynediad eraill y gallem helpu gyda nhw.

19:30 - Dydd Gwener, 20 Chwefror Tocynnau