Mae Agored 2025 yn cynnig cyfle i unrhyw un – boed yn artist proffesiynol, yn fyfyriwr neu berson sy’n creu celf fel diddordeb i ymgeisio i fod yn rhan o arddangosfa flynyddol yn Galeri.
Mae gwobrau ariannol hael ar gael:
£1,000 dewis y beirniaid
£400 cymeradwyaeth uchel
£250 dewis y bobl
Cost ymgeisio:
£10 (drwy paypal – i’w dalu drwy’r ffurflen gofrestru)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
23:59 Dydd Llun, 15/09/25
Dyddiad yr arddangosfa yn Galeri:
22/11/25 - 31/01/26
Gellir lawrlwytho y telerau/amodau yma
Plîs cysylltwch os oes angen cymorth i ymgeisio neu agen holi cwestiwn trwy e-bostio agored@galericaernarfon.com neu ffonio 01286 685208.