galeri


Lleuwen (Gig Gwyl Dewi)

image

Mae’r cerddor Lleuwen Steffan yn teithio’r byd yn perfformio ac wedi ymgartrefu yn Llydaw ers sawl blwyddyn gyda’i gŵr a’u dau o blant, ond mae hi’n ymwelydd cyson a gwlad ei mebyd ac yn cyflwyno cyngherddau ymhob rhan o Gymru. Bu’n rhan o gynhyrchiad Llechi yn Pontio, ac yn fwy diweddar bu’n recordio albwm newydd yn stiwdio Sain, Llandwrog.

 

Mae ei chaneuon teimladwy yn tynnu eu dylanwadau o gweddoriaeth gwerin, gydag arlliw o jazz, blues a dogn go helaeth o emynau Cymru.

 

Braint yw ei chroesawu i berfformio ar lwyfan Galeri ar Ddydd Gŵyl Dewi.

 

Bydd y canwr gwerin Gwilym Bowen Rhys yn agor y noson.

 

Bargen:

Tocynnau i > Gig Gŵyl Dewi (1.3.18) | Cau dy Geg: Stifyn Parri (2.3.18) | Athena (3.3.18)

am ddim ond £25! 01286 685 222 am fwy o wybodaeth

01.03.2018 | 20:00 - Tocynnau