14.12.18 Oriau Agor Galeri (Nadolig / Flwyddyn Newydd) I sicrhau bod staff Galeri yn cael amser gyda’u teuluoedd dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd – mae oriau agor Galeri wedi addasu ar gyfer y cyfnod. Dyma’r oriau agor:
Mi fydd posib archebu tocynnau ar-lein drwy’r dydd, pob dydd fel arfer (mae oedi yn debygol os yn talu am bostio tocynnau). Ar ran holl staff ac aelodau bwrdd Galeri Caernarfon Cyf – DIOLCH am eich cefnogaeth unwaith eto yn ystod 2018. Mae hi wedi bod yn flwyddyn hanesyddol wrth agor y sinema newydd, y flwyddyn orau o ran gwerthiant tocynnau ac hefyd gweld cannoedd o wynebau newydd yn defnyddio Galeri am y tro cyntaf. Nadolig Llawen, Blwyddyn Newydd Dda ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu eto yn Galeri yn ystod 2019. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
17.10.18 Swydd newydd: Derbynnydd/Cynorthwy-ydd Swyddfa Docynnau ar benwythnosau Oherwydd prysurdeb a cynnydd sylweddol yn nifer ymwelwyr â Galeri, rydym yn chwilio am berson i ymuno â’r tîm fel derbynnydd i weithio yn bennaf ar benwythnosau. Gellir lawrlwytho’r swydd ddisgrifiad yma a’r ffurflen gais yma. Dyddiad cau: Gwener, 16.11.18 am 12:00 (hanner dydd) Os oes angen gwybodaeth pellach neu sgwrs anffurfiol: |
16.10.18 Swydd: Aelod Tîm Gofal Cwsmer
Aelodau’r tîm yma sydd yn gyfrifol am sicrhau bod agweddau swyddfa docynnau, rheoli digwyddiadau a systemau y café-bar yn rhedeg yn esmwyth. Dyddiad cau: Does dim dyddiad cau wedi’i osod. Awgrymwn eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted a phosib. Gellir lawrlwytho’r swydd ddisgrifiad yma. I ymgeisio am y swydd, bydd angen cwblhau’r ffurflen gais yma yn ogystal a chyflwyno eich CV. Am sgwrs bellach, cysylltwch â: |
|||||||||||||||
09.10.18 Cadarnhau ffilmiau’r wythnosau nesaf…
Mae’r rhaglen hyd at nos Iau, 25 Hydref bellach wedi cael ei gadarnhau. Gellir lawrlwytho ar ffurf PDF yma neu am y rhestr llawn sinema, mae tudalen bwrpasol yn cynnwys holl ffilmiau, dangosiadau a tocynnau ar gael drwy ymweld â galericaernarfon.com/sinema. Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer ffilmiau i sicrhau eich bod yn cael y seddi yr ydych eisiau (gan bod cwsmeriaid bellach yn archebu sedd benodol pan yn archebu tocyn) a hefyd ar gyfer arbed arian (gan bod pris tocynnau yn codi ar y diwrnod). Yn anffodus, rydym wedi gorfod troi sawl cwsmer iffwrdd yn ystod sydd heb archebu ymlaen llaw – felly dyma’r unig gyngor allwn ei gynnig. Gofynnwn hefyd i unrhyw berson sydd yn dod i wylio ffilm gyda tystysgrif o 15 / 18 ddod a tystiolaeth/prawf oed (boed yn drwydded yrru, passport, cerdyn Validate UK neu gopi o dystysgrif geni). Nid Galeri sydd yn gosod rheolau oed, dyma’r gyfraith ac felly ni fyddwn yn caniatau neb sydd heb brawf i wylio ffilm 15 na 18. Gyda ffilmiau sydd a tystysgrif 12A – mae’n rhaid cael oedolyn gyda unrhyw blentyn llai na 12 mlwydd oed. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y BBFC. I archebu tocynnau, gellir: Os oes posib casglu eich tocynnau oleiaf 10 munud cyn amser dangosiad y ffilm (nodwch bod y ffilm yn dechrau ar yr amser a nodir – gyda hysbysebion yn dangos ychydig ynghynt). |
|||||||||||||||
21.09.18 Agor estyniad Galeri yn swyddogol
Braint oedd ei gael yma i gefnogi’r achlysur yn ogystal a chynrychiolaeth o ariannwyr y prosiect. Holl bwrpas agor y sinemau newydd yma yn Galeri ydi i gynnig rhaglen lawn o’r ffilmiau diweddaraf yma yng Nghaernarfon. Mae’n cynnig adnodd pwysig yma yn Galeri ar gyfer yr holl gymuned. Mae posib gweld y ffilmiau sydd yma ac archebu ar-lein ar y wefan hon (ac mae tocynnau yn rhatach ymlaen llaw – felly awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw). Edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn y sinema newydd ac am eich adborth. |
|||||||||||||||
11.09.18 Rhaglen sinema (14.09.18 – 04.10.18)
Prisiau tocynnau: Amser ffilm: Dewis eich sedd: Awgrymwn felly eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw i sicrhau eich sedd(i) ac am docynnau rhatach. Gofynnwn hefyd yn garedig i gwsmeriaid gyrraedd Galeri mewn digon o amser gan ystyried amser parcio, gasglu tocynnau a cymryd eich seddi mewn da bryd. Os am fwyta yn ein Café Bar cyn ffilm, y rhif i ffonioar gyfer archebu bwrdd yw: 01286 685 200. | |||||||||||||||
14.08.18 Rhaglen Newydd Lawrlwythwch ein rhaglen newydd sydd yn cynnwys digwyddiadau Medi - Rhagfyr 2018 yma | |||||||||||||||
14.08.18 Ymgeisio ar gyfer Arddangosfa AGORED Ddyddiad Cau Ceisiadau -
17.08.18, 4yp Mae Arddangosfa AGORED Galeri yn gyfle i unrhyw artist gyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa a gynhelir yn Safle Celf Galeri rhwng 9 Tachwedd a 14 Rhagfyr 2018. Gall yr artist for yn fyfyriwr/fyfyrwraig, yn broffesiynol neu yn artistiaid heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn celf. Does dim cyfyngiad o ran cyfrwng waith artist (film, ffotograffiau, portreadau, crefft, gwydr ac ati), na chwaith cyfyngiad oed na lleoliad daearyddol artist/ymgeisydd with ymgeisio. Fedrwch lawrlwytho'r ffurflen gais yma | |||||||||||||||
25.06.18 Prentis Technegol (Goleuo) Mae gennym gynllun prentisiaeth newydd – technegydd goleuo. Am fwy o wybodaeth – cliciwch yma Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 (hanner dydd), Gwener, 31.08.18 |
|||||||||||||||
29.05.18 Unedau/Swyddfeydd ar osod Mae gan y cwmni uned gwaith/swyddfa ar gael i’w rhentu: Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Neil Davies: |
|||||||||||||||
29.05.18 Cyfle i ymuno â’r tîm Aelod: Tîm Gofal Cwsmer Eisiau bod yn rhan ganolog o’r ffordd mae Galeri yn cael ei redeg? Os oes gennych y diddordeb, yr egni a’r agwedd iawn i sichrau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei gynnig i’n cwsmeriaid, hoffem glywed ganddoch chi! Swydd llawn amser (40 awr yr wythnos) I ymgeisio am y swydd, bydd angen cyflwyno ffurflen gais a CV. Am becyn gwybodaeth – cliciwch yma Os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol: |
|||||||||||||||
11.04.18 Cau llwybr/pafin (Ffordd Balaclava) dros dro
Mae’n rhaid cau y llwybr er mwyn gosod waliau allanol yr estyniad (sinema newydd) am gyfnod o wythnosau. Mi fydd, ac mae croeso i’r cyhoedd gerdded trwy adeilad Galeri os yn dymuno mynd i/o safle Doc Fictoria. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. |
|||||||||||||||
01.03.18 Ail-drefnu digwyddiadau oherwydd y tywydd garw Yn anffodus, gyda rhagolygon tywydd dydd Gwener, mae’n amhosib gwarantu bydd Stifyn Parri, Athena na Trystan Llyr Griffiths yn gallu teithio i Gaernarfon. O’r herwydd, rydym wedi penderfynu ail-drefnu ar gyfer dyddiadau newydd: Athena a Trystan Llyr Griffiths Stifyn Parri: Cau dy Geg Bydd stadd y Swyddfa Docynnau yn cysylltu gyda pawb sydd wedi archebu tocynnau i drefnu trosglwyddo’r tocynnau neu ad-dalu. Mae digwyddiadau heddiw – TONIC a Lleuwen Steffan yn parhau fel mae hi’n sefyll. Cadwch lygad allan ar ein tudalennau Facebook a Twitter am unrhyw ddiweddariadau. |
|||||||||||||||
01.12.17 Rhaglen Ionawr – Ebrill 2018
Fel pob tro – cofiwch gadw eich llygaid allan am unrhyw addasiadau neu ychwanegiadau i’r rhestr ddigwyddiadau. Byddwn wastad yn cyhoeddi ar y wefan ac ar ein tudalennau Facebook a Twitter (cofiwch ddilyn!) Mae posib lawrlwytho’r rhaglen yn electronig drwy glicio yma |
|||||||||||||||
16.11.17 Prosiectau Celf Portffolio a Codi’r Bar 2018
Mae Galeri yn cydweithio gydag Oriel Môn i gyflwyno dau gynllun cyffrous (Portffolio a Codi’r Bar) i artistiaid dawnus sydd yn astudio celf/dylunio ar lefel: Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio am le, lawrlwythwch y ffurflen yma Bydd angen cyflwyno eich ffurflen gais erbyn 08.12.17. Am sgwrs bellach am y prosiectau: 01286 685 208 |
|||||||||||||||
16.10.17 Gohirio gwersi heno : Sbarc a Dawns i Bawb Oherwydd rhagolygon tywydd diwedd y prynhawn/heno, ni fydd gwersi arferol Sbarc na Dawns i Bawb yn cael eu cynnal heno. I gael y diweddaraf am wersi Canolfan Gerdd William Mathias : 01286 685 230 |
|||||||||||||||
03.10.17 Seddi balconi ar gael i HOLLTI
Bydd y tocynnau (£12 - £10) ar werth o 10:00, fore Mercher (04.10.17) ymlaen – ac ar gael drwy’r swyddfa docynnau yn unig - 01286 685 222 neu drwy ddod i Galeri. Yn anffodus – ni fydd modd defnyddio ap Sibrwd yn y balconi.
|
|||||||||||||||
20.09.17 Addasiadau i’r rhaglen sinema: Hydref – Rhagfyr Mae newidiadau ac ychwanegiadau i’n rhaglen sinema yn ystod misoedd Hydref, Tachwedd a Rhagfyr: 30.10.17 (10:00) | 31.10.17 (10:30) | 01.11.17 (11:00) > THE JUNGLE BUNCH [U] 30.10.17 (14:00) | 31.10.17 (14:00) > GOODBYE CHRISTOPHER ROBIN [PG] 10.11.17 (19:30) > THE LURE [12A] 13.12.17 (14:00, 19:30) > THE DEATH OF STALIN [15] Tocynnau ar gyfer yr holl ffilmiau ar gael o’r swyddfa docynnau neu ar-lein. |
|||||||||||||||
20.09.17 Enillwyr Gwobrau’r Noddwyr – Agored 2017
Ers sefydlu’r arddangosfa flynyddol arbennig hon, mae’r nifer o artistiaid sydd yn ymgeisio a’r safon wedi codi o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r arddangosfa yn hynod bwysig nid yn unig yng nghalendr gweithgareddau Galeri, ond hefyd ar draws y sector celf weledol yng ngogledd Cymru. Rydym yn hynod falch o dderbyn nawdd a chefnogaeth Gwyn a Mary Owen sydd yn ein galluogi i barhau i gynnal yr arddangosfa flynyddol unigryw hon. Ymgeisiodd 85 artist eleni, artistaid o Gymru a thu hwnt ac mae 24 wedi’u dethol gan y panel dethol. Fe aeth gwobrau’r noddwyr, Gwyn a Mary Owen i: Mae’r bleidlais gyhoeddus ar gyfer gwobr Dewis y Bob lar agor tan 14:00, dydd Gwener, 27 Hydref. Cyhoeddir yr enillydd ar dudalennau Facebook a Twitter Galeri am 18:00. |
|||||||||||||||
12.09.17 Gyrfa yn Galeri: Aelod Tîm Gofal Cwsmer Rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Gofal Cwsmer yma yn Galeri. Mae’r swydd yn ganolog i’r datblygiadau cyffrous sydd ar y gweill gyda sinema 2 sgrin newydd sbon i agor yn 2018. Bydd yr aelod newydd yn ymuno a’r tîm sydd yn gyfrifol am sicrhau gofal cwsmer o’r safon gorau posib. Cyflog: £16,640 Swydd ddisgrifiad ar gael yma Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Am sgwrs bellach: |
|||||||||||||||
30.08.17 Bws gwennol ar gyfer HOLLTI (05.10.17) Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Galeri yn falch iawn o gyhoeddi y bydd bws gwennol yn rhedeg o Ynys Môn i Galeri, Caernarfon ar gyfer noson agoriadol taith Hollti – nos Iau, 5ed o Hydref. I sicrhau eich sedd ar y bws (cyntaf i’r felin) – ffoniwch 01286 685 222. Mae’r bws yn rhad ac am ddim ar yr amod eich bod wedi archebu tocyn ymlaen llaw. Tocynnau [£12 - £10] ar gael o Galeri ar y rhif uchod neu ar galericaernarfon.com Amserlen y bws: Cynhelir sgwrs cyn-sioe yn y bar am 19:00 yng nghwmni criw creadigol Hollti dan arweiniad Catrin Jones Hughes. Drama i gychwyn yn brydlon am 19:30 gyda’r bws yn gadael Galeri yn ôl i Fôn oddeutu 21:15. Cofiwch bod mynediad i fwynhau’r ddrama ar gyfer y di-Gymraeg drwy gyfrwng ap Sibrwd. Lawrlwythwch yr ap (am ddim) ar eich ffonau symudol/tabled ymlaen llaw. #Hollti |
|||||||||||||||
22.08.17 Dangosiadau ffilm ychwanegol Oherwydd y galw, rydym am fod yn dangos 2 ffilm yn ychwanegol i’r hyn sydd wedi cael ei hysbysebu. Y dangosiadau yw: DUNKIRK [12A] DESPICABLE ME 3 [U] Tocynnau ar gael ar-lein, o’r Swyddfa Docynnau yn Galeri neu drwy ffonio 01286 685 222. |
|||||||||||||||
03.08.17 Rhaglen Medi – Rhagfyr 2017 Mae rhaglenni newydd tymor Medi – Rhagfyr ar fin cyrraedd Galeri. Os ydych yn ymweld, cofiwch godi eich copi a bydd posib hefyd ei gasglu o Gaffi’t Theatrau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol o ddydd Llun (7.8.17) ymlaen. Mae’n debygol bydd mwy o ddigwyddiadau i’w cyhoeddi. I lawrlwytho copi electronig i’ch dyfais, cliciwch yma |
|||||||||||||||
01.08.17 Newid i oriau agor 3.8.17 |
|||||||||||||||
26.06.17 Cadarnhau dyddiad: Marchnad Nadolig Galeri 2017
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael stondin, gellir lawrlwytho ffurflen gais yma Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 (hanner dydd), dydd Llun, 04.09.17 Am fwy o wybodaeth: |
|||||||||||||||
19.06.17 Penodi Nici Beech yn Gyfarwyddwr Artistig Galeri Mae’n bleser gan Galeri Caernarfon Cyf gyhoeddi mai Nici Beech sydd wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig newydd y ganolfan. |
|||||||||||||||
23.03.17 Gwaith adeiladu 2 sgrin sinema newydd Galeri i ddechrau wythnos nesaf
Mae’r buddsoddiad gwerth bron i £4m yn golygu mai Galeri, Caernarfon fydd unig sinema aml-sgrin pwrpasol Gwynedd a Môn. Bydd y rhaglen sinema newydd yn cynnwys dangos y ffilmiau diweddaraf ar ddyddiad rhyddhau gan hefyd ryddhau’r prif theatr 394 sedd ar gyfer datblygu’r rhaglen ddigwyddiadau byw a’r busnes llogi/cynadleddau. Pensaer gwobrwyedig adeilad gwreiddiol Galeri, Richard Murphy sydd yn gyfrifol am y dyluniad a’r cwmni adeiladu o Lysfaen, RL Davies fydd yn adeiladu’r estyniad newydd. Mae’r prosiect wedi derbyn arian cyfalaf o goffrau Cyngor Celfyddydau Cymru (arian Loteri Cenedlaethol), Llywodraeth Cymru (cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid) a Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop er mwyn sicrhau bod y prosiect yma yn cael ei wireddu. Bydd rhaglen ddigwyddiadau Galeri yn parhau yn ystod y cyfnod adeiladu, a byddwn yn ceisio sicrhau na fydd y gwaith adeiladu yn effeithio yn ormodol ar ein gweithrediadau. Mi fydd yn rhaid creu mynedfa newydd dros-dro tan i’r adeilad newydd agor cyn Haf 2018. sinema newydd GALERI new cinema from Delwedd on Vimeo. |
|||||||||||||||
13.02.17 Unedau/Swyddfeydd ar osod Mae gan y cwmni 3 uned gwaith/swyddfa ar gael i’w rhentu: Galeri | Uned 4 | 17m2 | £4,400 +TAW y flwyddyn | Taflen wybodaeth ar gael yma Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Neil Davies: |
|||||||||||||||
27.01.17 Gohirio Cyngerdd Gala Santes Dwynwen
O’r herwydd, mae’n rhaid gohirio a cheisio ail-drefnu cyngerdd Gala Santes Dwynwen heno yn Galeri, Caernarfon. Bydd Galeri mewn cysylltiad gyda pawb sydd wedi archebu tocynnau i drafod ymhellach. Unrhyw ymholiadau, croeso i chi gysylltu â Galeri drwy ffonio 01286 685 222. |
|||||||||||||||
04.01.17 Diweddariad: Sinema newydd 2 sgrin Galeri
Mi fydd agor y sinema pwrpasol newydd yma yn golygu mai Caernarfon fydd yr unig sinema aml-sgrin yn siroedd Gwynedd a Môn. Mae’r datblygiad hefyd am ein galluogi i ryddhau’r prif theatr 394 sedd ar gyfer datblygu’r rhaglen artistig a defnydd masnachol megis cynadleddau a priodasau. Pan fydd y sinema 2 sgrin yn cael ei hagor, mi fydd yn rhedeg ffilmiau 7 diwrnod yr wythnos ac yn cynnig ffilmiau newydd sbon, ffilmiau annibynnol a rhyngwladol yn ogystal â ffilmiau ar themau amrywiol drwy’r flwyddyn. |
|||||||||||||||
25.11.16 Cyhoeddi rhaglen Ionawr – Ebrill 2017
Os na allwch aros – yna lawrlwythwch y rhaglen yn ddigidol drwy glicio yma Mae tocynnau’r tymor bellach ar werth. Cofiwch hefyd bod tocynnau anrheg ar gael a’n bod yn cau dros gyfnod y Nadolig. Bydd y Swyddfa Docynnau yn cau am y Nadolig am 14:30 ar ddydd Gwener, 23.12.16 (ac yn ail agor am 09:00 dydd Mercher, 03.01.17) |
|||||||||||||||
18.11.16 Enillwyr Arddangosfa Agored 2016
Gwobrau’r Noddwyr (dewis Gwyn a Mary Owen) Gwobr Dewis y Bobl 2016: Hoffai Galeri ddiolch a llongyfarch yr holl ymgeiswyr. Mae ffurflen gais Agored 2017 bellach ar gael gyda cynnydd yn y gwobrau ariannol, diolch i haelioni noddwyr y gystadleuaeth – Gwyn a Mary Owen. Gellir ei lawrlwytho yma |
|||||||||||||||
10.11.16 Marchnad Nadolig Galeri 2016
Bydd y swyddfa docynnau ar agor o 09:30 – 16:00 er mwyn archebu tocynnau neu docynnau anrheg. Mynediad am ddim! Am fwy o fanylion: 01286 685 222 |
|||||||||||||||
29.09.16 Oriau agor bar / cegin: tymor yr Hydref Mae newid i’r oriau agor cegin/bar am dymor yr Hydref:
Bydd y bar ar agor yn hwyrach ar nosweithiau lle mae digwyddiadau. I archebu bwrdd: 01286 685 200 neu cegin@galericaernarfon.com |
|||||||||||||||
08.09.16 Sesiwn Sgriblo (17.09.16) Yn anffodus, mae'n rhaid gohirio sesiwn Sgriblo 17.09.16. Felly, dim ond 3 sesiwn Sgriblo fydd yn y tymor: Cofiwch bod Penwythnos Mawr Roald Dahl Caernarfon yn digwydd ar y dydd Sadwrn 17.09.16 gyda digwyddiadau creadigol a hwyliog i'r teulu. |
|||||||||||||||
08.09.16 Gwenfflam Caernarfon Alight: galw am wirfoddolwyr Fel rhan o ddigwyddiad 'Gwenfflam Caernarfon Alight' sydd yn cael ei gynnal yng Nghastell Caernarfon ddiwedd y mis, ar nos Wener, 30 Medi bydd prosesiwn arbennig yn gadael Galeri am 19:00 ac yn dilyn band 'Mr Wilson's Second Liners' drwy strydoedd Caernarfon i'r Cei Llechi. Mae angen arnom dros 80 o wirfoddolwyr i garrio tortshys tân a stiwardiaid i roi help llaw o 17:00 - 20:00 ar y noson. Mae'n rhaid bod yn 16 mlwydd oed neu hyn i allu ein helpu. Mae hefyd cyfle i ddod i roi help llaw i blant a phobl ifanc prosiect Sbarc-Galeri ar nosweithiau Llun a Mercher i greu llusernau arbennig fydd yn cael eu defnyddio yn y prosesiwn. Cwmni Walk the Plank sydd yn creu'r digwyddiad fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Antur Cymru 2016. Oherwydd y prosesiwn, ni fydd perfformiad yn y castell rhwng 19:00 - 20:00 ar y nos Wener, 30.09.16. Am fwy o fanylion: |
|||||||||||||||
26.08.16 Newid ffilm: Sgrin am Sgrin (29.09.16)
Ffilm ‘Sgrin am Sgrin’ (£1 y tocyn) mis Medi fydd THE KILLING$ OF TONY BLAIR [15]. Mae tocynnau ar werth o’r Swyddfa Docynnau neu drwy ffonio 01286 685 222. |
|||||||||||||||
12.08.16 Arddangosfa ‘Perthyn’ gan Cefyn Burgess
Dafydd Wigley fydd yn agor yr arddangosfa, gyda Cefyn yn cynnal sgwrs am 15:00 am yr arddangosfa a’r prosiect ehanghach. Croeso cynnes i bawb, mynediad yn rhad ac am ddim. |
|||||||||||||||
01.07.16: Newid i ddyddiad cau ceisiadau Agored 2016 Oherwydd newid i ddyddiad panel dethol Arddangosfa Agored 2016, mae’r dyddiad cau wedi cael ei ymestyn i 16:00, dydd Sul 31.07.16. Am ffurflen gais – cliciwch yma Os oes angen mwy o wybodaeth/sgwrs, cysylltwch â Lisa Taylor ar 01286 685 208. |
|||||||||||||||
08.06.16: Gohirio taith Cymru o Caitlin
Mi fydd staff Galeri yn cysylltu â phawb sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer trefnu ad-daliadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra, a dymunwn wellhad buan i Eddie. Gobeithio gallwn groesawu’r cwmni yn ôl i Galeri i berfformio Caitlin yn fuan. Cadwch lygad allan am unrhyw newyddion/ddiweddariad. |
|||||||||||||||
19.05.16: Diweddariad: Sinema newydd Galeri
Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn cwblhau’r dyluniad mewnol, cadarnhau’r pecyn cyllid ac yn mynd allan i dendr ar gyfer cytundeb adeiladu’r estyniad. Ein gobaith yw dechrau ar y gwaith ym mis Ionawr 2017 ac i agor ym mis Ionawr 2018. |
|