Mae croeso cynnes i deuluoedd yn Galeri.
Digwyddiadau i’r teulu
Rydym yn rhaglennu oleiaf un ffilm deuluol y mis (gan amlaf ar Sul cyntaf y mis). Rhaglennir gweithdai achlysurol a hefyd digwyddiadau drwy’r flwyddyn (yn gynhyrchiadau Cymraeh neu heb iaith y rhan fwyaf o’r amser).
Cadw’r plant yn brysur
Yn y caffi/bar, rydym yn darparu deunyddiau lliwio i gadw’r plant yn brysur tra bod mam/dad neu nain/taid yn cael sgwrs. Gallwn hefyd ddarparu côd wi-fi am ddim.
Toiledau/cyfleusterau newid Babanod
Mae toiledau a chyfleusterau newid babanod ar y 3 llawr.
Parcio pramiau
Gallwn edrych ar ôl eich pramiau (am ddim) pan yn mynychu digwyddiad yn Galeri.