galeri
Poster Sbarc

Bydd Clwb Drama Sbarc yn parhau gyda tymhorau o weithdai ym mis Ionawr 2024 gyda cynhyrchiad newydd sbon ar y gorwel wedi ei ysgrifennu gan Mared Llywelyn a caneuon wedi ei gyfansoddi gan Gwilym Bowen Rhys. Bydd y cynhyrchiad yn cynnwys holl elfennau perfformio; actio, canu a dawnsio.

Dim ond i oedrannau cynradd mae Sbarc yn agored i ar hyn o bryd, ond bydd Clwb Drama i bobl ifanc oedran Uwchradd yn cychwyn nes ymlaen yn 2024, yn gweithio tuag at gynhyrchiad adeg y Nadolig yn Theatr Galeri.

Mae Sbarc hefyd wastad yn agored i glywed gan unigolion creadigol sydd gyda phrofiad/eisiau magu sgiliau arwain gweithdai a chreu gwaith celfyddydol gyda phlant a phobl ifanc. Gyrrwch neges i ddatgan diddordeb i: lowri.cet@galericaernarfon.com

Plant yn cael hwyl
Plant yn cael hwyl
Plant yn cael hwyl