galeri


Amdanom Ni

Mae Galeri Caernarfon Cyf (Cwmni Tref Caernarfon Cyf gynt) yn fenter gymunedol ddi-elw sy'n gweithredu fel Ymddiriedolaeth Datblygu.

Gweledigaeth Galeri Caernarfon Cyf yw bod:
"unrhyw beth yn bosibl...drwy feddwl yn greadigol a gweithredu cynaliadwy"

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth bydd y cwmni yn:
"gweithredu prosiectau cynaliadwy mewn ffordd greadigol i wireddu potensial diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned leol a'r cyffiniau"

Sefydlwyd y cwmni yn 1992, gyda’r bwriad o wella tref Caernarfon gan ymgymryd â’r dasg o drawsnewid ac ailwampio rhai o adeiladau gwag, bler mwyaf y dref. Hyd yma, mae’r Ymddiriedolaeth wedi adnewyddu dros ugain o adeiladau gwag wedi eu hesgeuluso yn y dref, sydd yn awr gyda thenantiaid.

Ceir rhestr ein eiddo/tenantiaid yma


Mae cyfraniad y cwmni yn economaidd i siroedd Gwynedd a Môn yn sylweddol:
- Mae’r cwmni yn cyfrannu bron i £2.5m y flwyddyn i economi Gwynedd a Môn
- Mae bob £1 a gaiff ei wario yn Galeri werth dros £2 i’r economi leol
- Mae pob £1 o grant cyllid yn creu £9.65 yn yr economi leol
- Mae’r cwmni yn cyflogi dros 50 o staff (llawn amser / rhan amser / achlysurol]
- Mae’r cwmni yn cefnogi dros 50 o swyddi pellach yn yr economi leol


Gellir darllen adroddiad ARAD yn llawn yma

eiddo01

imageDatblygiad Canolfan Mentrau Creadigol Galeri yw’r prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol gan yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Roedd agor Galeri yn 2005, adeilad £7.5m, yn dynodi datblygiad arwyddocaol i’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol yng Ngogledd Cymru.

Mae adeilad Galeri yn cynnwys:
- Theatr a sinema 394 o seddi
- 24 o unedau swyddfa
- Safle Celf
- 2 stiwdio ymarfer fawr
- 3 ystafell ymarfer llai o faint
- Ystafelloedd cyfarfod
- Café Bar

Ym mis Medi 2018 agorwyd estyniad newydd ar safle Galeri. Mae’r estyniad yn cynnwys 2 sinema pwrpasol (119 a 65 sedd) yn ogystal a Safle Creu, Swyddfa Docynnau newydd, gofod arddangos celf/crefft ac ystafell gyfarfod i 12 person. Mae’r rhaglen sinema bellach yn cynnig darpariaeth fwy eang a chyson o ffilmiau amrywiol – gan gynnwys ffilmiau newydd sbon.

 

Ers 2000, mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi bod yn rhedeg Prosiect Celfyddydol llwyddiannus iawn o’r enw Sbarc Galeri.

Mae’r prosiect yn cynnig ystod eang o brofiadau celfyddydol i blant a phobl ifanc. Cynhelir dosbarthiadau wythnosol ym meysydd cerddoriaeth roc a drama a rheini yn arwain at berfformiadau cyson yn Galeri. Yn ogystal a hyn cynhelir gweithdai blasu amrywiol am gyfnodau byrion, mwy intensif megis Ysgolion Hâf Sioeau Cerdd, a cerddoriaeth roc a cyrsiau dawns, ffotograffiaeth a sgriptio.

 

pic01

 

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn rhedeg Gwasanaeth Ymgynghori POSIB - sef cangen ymgynghori a hyfforddiant. Gallwn gynnig hyfforddiant ac arweiniad penodol ym meysydd datblygu eiddo, rheoli/cynnal a chadw a/neu reoli prosiectau. Dros y blynyddoedd, rydym wedi bod yn gweithio gyda sawl corff megis Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Neuadd Ogwen ac Antur Waunfawr.